Mae awyr y dwyrain yn ddysglaer ywch ben

(Genedigaeth Grist)
Mae awyr y dwyrain
    yn ddysglaer uwch ben,
Mae arwydd o'r mwyaf
    yn entrych y nen;
  Mae'r goleu'n dysgleiriach
      o lawer na'r wawr,
  Mae'n nesu'n agosach,
      mae'n dyfod i lawr.

Mae llais rhyw ganidau
    pereiddiaf o bell,
Melusach na'r symbal,
    na'r organ yn well:
  Fel cymysg ganiadau
      angylion y nef,
  A'r awyr sy'n chwareu
      wrth adsain y llef.

Edrychwch, a deliwch
    eich golwg ynglyn,
Mae acw greaduriad
    serchocaf eu llun;
  Mae mil o dafodau
      perffeithiaf a glān,
  Mewn cydsain soniarus
      yn seinio'r un gān.

Mi glywaf y ganiad,
    "Gogoniant i Dduw,
Fyth fythol sydd yn
    yr uchelder yn byw;
  Boed hedd ar y ddaear,
      tangnefedd i ddyn,
  Fe anwyd Gwaredwr,
      cydganed pob un."
William Williams 1717-91

[Mesur: 11.11.11.11]

(The Birth of Christ)
The sky of the east is
    shining overhead,
There is a sign of the largest
    in the vault of sky;
  The light is much more
       radiant than the dawn,
  It is approaching nearer,
       it is coming down.

There is the voice of some songs
    the sweetest by far,
Sweeter than the cymbal,
    better than the organ:
  Like a mixture of the songs
      of the angels of heaven,
  And the sky is playing
      with the echo of the cry.

Look, and keep
    your sight connected,
Yonder are creatures
    most passionate their appearance;
  There are a thousand tongues
      most sweet and holy,
  In a resonant chorus
      sounding the same song.

I hear the song,
    "Glory to God,
Forever and ever, who is in
    the height living;
  Let there be peace on the earth,
      tranquility to man,
  A Deliverer was born,
      let every one chorus."
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~