Mae banerau'r nef yn chwareu

1,(2),3.
Mae banerau'r nef yn chwareu,
  Hedeg mae'r efengyl lon;
Rhaid i'r Iesu mwyn deyrnasu
  Dros derfynau'r ddaear gron:
Gwael yw gweled llwythau Israel,
  Dim ond hyny wrth ei draed:
Rhaid cael tyrfa fwy lluosog
  I glodfori'r Dwyfol waed.

Cyfod, Haul Cyfiawnder golau,
  Ymddisgleiria yn dy rym;
Rhwystro dy belydrau tanbaid
  I ymledu ni all dim;
Gwawried golau dydd yn fuan
  Lle mae tywyll nos yn awr,
Eled sôn am waed Cyfryngwr
  Dros holl gyrrau'r ddaear fawr.

Cymer aden, fwyn efengyl,
  Hed dros wyneb daear lawr;
Seinia d'udgorn clir nes clywo
  Pawb o deulu'r codwm mawr:
Dwed am rinwedd Balm Gilead,
  A'r Physygwr yno sydd;
Golch yn wyn y rhai aflanaf,
  Dwg y caethion oll yn rhydd.
1 : Thomas Phillips 1772-1842
2,3: D Silvan Evans (Daniel Las) 1818-1903

Tonau [8787D]:
Dusseldorf (F Mendelssohn / J Roberts)
Moriah (Martin Madan 1725-90)

gwelir: Cymer adain fwyn efengyl

The banners of heaven are fluttering,
  Flying is the cheerful gospel;
Jesus must reign
  Across the boundaries of the round earth:
Bad it is to see the tribes of Israel,
  Only these at his feet:
A great multitudinous throng must get
  To extol the divine blood.

Rise, thou bright Sun of Righteousness,
  Shine in thy power;
To frustrate thy fiery rays
  From spreading nothing can;
Let the light of day dawn soon
  Where dark night is now,
May mention of the Mediator's blood go
  Over all the corners of the great earth.

Take wing, fair gospel,
  Fly across the face of the earth below;
Sound thy trumpet clearly until hear
  All of the family of the great fall:
Tell of the virtue of the Balm of Gilead,
  And the Physician who is there;
Wash white those most unclean,
  Bring the captives all free.
tr. 2014,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~