Mae bendigedig eiriau Duw

(Geiriau Duw)
Mae bendigedig eiriau Duw
  Yn llewyrch gwiw i'r bobloedd
Sydd mewn tywyllwch, cynar goll,
  Yn ffordd yr holl genhedloedd.

Gwrandawed pob rhyw enaid byw
  Mor hyfryd yw y newydd;
Mae'n fywyd i bechadur dwys,
  Tan ddirfawr bwys euogrwydd.

Mae datguddiadau'r nefol Ion,
  A'i addewidion grasol,
Yn lloni'r seintiau ar y llawr,
  Nes codi'r wawr dragwyddol.

O rhoddwn foliant hyd y nef,
  Gan godi'n llef yn llafar,
Am air yr iachawdwriaeth hon,
  I'n cyrchu ni o'n carchar.
? Benjamin Francis 1734-99
Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen & Jones) 1868

Tôn [MS 8787]: Ely (Thomas Turton 1780-1864)

gwelir: Gwrandawn ar air ein Duw

(God's words)
The blessed words of God are
  Are a worthy radiance to the peoples
Who are in darkness, so much astray,
  In the way of all the nations.

Let every kind of living soul listen
  How delightful is the news;
There is life for the dire sinner,
  Under the enormous weight of guilt.

The revelations of the heavenly Master,
  And his gracious promises
Are cheering the saints on the earth,
  Until the eternal dawn rises.

O let us render praise as far as heaven,
  By raising a cry loudly,
For the word of this salvation,
  To bring us out of our prison.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~