Mae Brenin nef ar frys i ddod
Mae Brenin nef ar fyr i ddod
Mae Brenin nef ar fyr yn d'od
Mae Brenhin nef ar fyr yn dôd
Mae Brenhin nef ar fyrr yn dôd
Wel dacw'r Brenin mawr yn dod

(Arwydd Mab y Dyn / Dyfodiad Crist a'i farn)
Mae Brenin nef ar fyr i ddod,
Mewn rhwysg na welodd neb erioed;
  Mae angau, uffern fawr, a'r bedd
  Yn ofni edrych yn ei wedd.

Cydgorfoledda'r
    saint bob un,
Pan welant arwydd Mab y dyn;
  Fel bore wawr o'r dwyrain draw,
  Yn dangos bod yr haul gerllaw.

Ni chenfydd etifeddion hedd,
Ddim llid na dicter yn ei wedd,
  Esgynnant oll yn lluoedd llon,
  I wledda'n siriol ger ei fron.

Pa bryd caf weld y ddedwydd awr,
Boreddydd tragwyddoldeb mawr,
  I atgyfodi o'r meirw'n fyw,
  A'm llawn ddigoni â delw Duw?
bob un :: yn un
Boreddydd :: Boreudydd

              - - - - -

Mae Brenin nef ar fyr i ddod,
Mewn rhwysg o'r fath na fu erioed;
  Mae angau, uffern fawr, a'r bedd
  Yn ofni edrych yn ei wedd.

Gorfoledd pur i'r saint bob un,
Fydd gweled arwydd Mab y dyn;
  Fel bore wawr o'r dwyrain draw,
  Yn dangos fod yr haul gerllaw.

Llon etifeddion nefol hedd,
Ni welant ddigter yn ei wedd,
  Esgynant oll yn lluoedd llon,
  I wledda'n siriol ger ei fron.

              - - - - -
              1,(2),3a,4;  1,3b,4.

Mae Brenhin nef ar fyr yn dôd
Mewn rhwysg na welodd neb erioed;
  Mae angeu, uffern fawr, a'r bedd
  Yn ofni edrych ar ei wedd.

Ymddetyd y greadigaeth faith,
Yr haul a orphen ar ei daith,
  Y byd a lysg,
      y ser a ff%,
  Pan ymddangoso IESU cu.

Cydorfoledda'r saint yn un,
Pan welont arwydd Mab y dyn,
  Fel bore wawr o'r dwyrain draw,
  Sy'n dangos fod yr haul ger llaw.

[Saint, gorfoleddant yn gytûn,
 Pan welant arwydd Mab y dyn,
   Fel bore wawr o'r dwyrain draw,
   Yn dangos fod yr haul ger llaw.]

Ni wela etifeddion hedd,
Ddim llid na digter yn ei wedd:
  Esgynant oll yn lluoedd llon,
  I wledda'n siriol ger ei fron.

              - - - - -
      1,(2,3),4,5;  1,4,(5),6;
    1,(4,(5)),6,7;  1,4,6,7,9,11;
   1,4,7,(8);  1,4,7,9,10,(11),12.

Mae Brenin nef ar fyr yn d'od
Mewn rhwysg na welodd neb erioed;
  Mae angeu, uffern fawr, a'r bêdd
  Yn ofni edrych ar ei wêdd.

Ond holl gariadau gwych fy Nuw
Fu gynt yn farw, ond nawr yn fyw;
  Llawenydd annrhaethadwy dardd
  Wrth edrych yn ei wyneb hardd.

Ni wêl y rhai'n ond gras i gyd,
Gras a ddechreuodd cyn bod byd;
  Llifeiriol afon fawr o hedd,
  A chariad unig yn ei wedd.

Fe lysg y byd yn ulw mân,
Fe dry'r greadigaeth fel o'r blaen;
  Cwymp y planedau
      er eu maint,
  Bydd Iesu'n Frenin ar ei saint.

Pan syrthio ser y nen i lawr,
A phan
    ddiffoddo'r haulwen fawr;
  Er cymaint fydd y 'storm a ddaw,
  Dyogel fyddaf yn ei law.

O! tyred, ddedwydd, hapus awr,
Boreddydd tragwyddoldeb mawr;
  Poen yw 'mhleserau, poen fy oes,
  Wrth bechu'n erbyn
      gwaed y groes.

Mi Wela'n codi'r Seren ddydd,
Mi glywa'r canu yno fydd;
  Angelion gyd â'r saint yn un,
  Yn cadw cwmni Mab y Dyn.

Ar Galfari y talodd ef,
Ofynion mwya', trymma'r nef;
  Yn awr mae'r carcharorion prudd,
  Yn llawen hyfryd ddo'd yn rhydd.

Mae haeddiant fy Iâchawdwr mawr,
Yn dioddef poen rhwng nef a llawr,
  Yn fwy ei rin filiynau mawr
  Na haeddiant seintiau'r
      nef a'r llawr.

Na fydded ardal cyn bo hîr,
O'r dwyrain i'r gorllewin dîr,
  Na byddo'r iachawdwriaeth ddrud,
  Yn llanw cyrau y rhai'n i gyd.

O tyr'd i ben ddedwyddaf ddydd,
Darfydded sôn am bethau sydd;
  Na'r byd, na'i rwysg,
      na'i wae, na'i boen,
  Ond canu byth
      am waed yr Oen.
Mae Brenin nef ar fyr :: Wel dacw'r Brenin mawr
ar fyr :: ar frys
O! tyred :: O! dere
poen fy oes :: poen yw'm loes

              - - - - -
          1,2,3;  1,2,4,5,6.

Wel! dacw'r Brenin mawr yn dod,
Mewn rhwysg na welodd neb erio'd;
  Mae angeu, uffern fawr a'r bedd,
  Yn ofni edrych ar ei wedd.

Fe lysg y byd yn ulw mân,
Fe dry'r greadigaeth fel o'r bla'n;
  Cwymp y planedau, er eu maint,
  Bydd Iesu'n Frenin ar ei saint.

Mi Wela'n codi'r Seren ddydd,
Mi glywa'r canu yno fydd;
  Angelion gyda'r saint yn un,
  Yn cadw cwm'ni Mab y Dyn.

Gwel pererinion lu yn awr,
Achubwyd yn y 'stormydd mawr:
  Dan Sinai fe'u cynhaliwyd hwy,
  Pwy elyn a'u gorchfyga mwy?

A gwaed yr Oen
    eu prynu wnaed,
Eu henwau ymhlith y saint a gaed;
  Hwy a gyfrifwyd y ddilai,
  O rif y bendigedig rai.

Pa fater yw i'r rhai'n i gyd
Gael eu dirmygu gan y byd?
  Eu henwau da, a'u parch,
      a'u bri,
  Sy'n 'nghadw yn y nefoedd fry.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Angels' Song (Orlando Gibbons 1583-1625)
  Augsburg (<1869)
Cathedral Chant (<1895)
Crwys (P H Alexander 1879-1944)
Eisenach (J H Schein 1586-1630)
Glanllyfnwy (Emlyn Davies 1870-1960)
(Emyn) Luther (Gesangbuch Klug)
Llangadog (<1811)
Maryton (Henry Percy Smith 1825-98)
Melcombe (Samuel Webbe 1740-1816)
Otterbourne (F J Haydn 1732-1809)
Peru (<1835)
Samson (G F Handel 1685-1759)
Spires (Martin Luther 1483-1546)
Tallis' Canon (Thomas Tallis c.1505-85)
Winchester (Bartholomäus Crasselius 1667-1724)
Yr Hen 100fed (Pseaumes octante-trois, Geneva, 1551.)

gwelir:
  Ffordd newydd wnawd gan Iesu Grist
  Saint gorfoleddant yn gytun
  Wel dyma'r pererinion dewr
  Wel weithian c'od fy enaid cu

(The Sign of the Son of Man / Christ's coming and his judgment)
The King of heaven is shortly to come,
In a flourish no-one has ever seen;
  Death, great hell, and the grave
  Fear to look in his face.

The saints will be jubilant
    together every one,
When they see the sign of the Son of man;
  Like morning dawn from yonder east,
  Showing that the sun is at hand.

The heirs of peace shall not find
Any wrath or anger in his face,
  They shall all ascend as a cheerful hosts,
  To feast gladly happily before him.

When may I get to see the happy hour,
The morn of day of a great eternity,
  To rise again from the dead alive,
  And satisfy me fully with the image of God?
every one :: as one
::

                   - - - - -

The King of heaven is shortly to come,
With a flourish of the kind never seen;
  Death, great hell, and the grave
  Fear to look in his face.

Pure jubilation for the saints every one,
Will see the sign of the Son of man;
  Like morning dawn from yonder east,
  Showing that the sun is at hand.

Cheerful heirs of heavenly peace,
Shall not see wrath in his face,
  They shall all ascend as cheerful hosts,
  To feast gladly before him.

                - - - - -
 

The King of heaven is coming shortly
In a flourish no-one has ever seen;
  Death, great hell, and the grave
  Fear to look on his countenance.

The vast creation shall unravel,
The sun shall finish its travel,
  The world shall burn,
      the stars shall flee
  When dear JESUS appears.

The saints will rejoice together as one,
When they see the sign of the Son of man,
  Like morning dawn from yonder east,
  Which shows that the sun is at hand.

[Saints, they will be jubilatnt together,
 When they see the sign of the Son of Man,
   Like the morning dawn from yonder east
   Which is showing that the sun is at hand.]

The heirs of peace shall not see
Any wrath or anger in his face:
  They shall all ascent as cheerful hosts,
  To feast gladly before him.

                - - - - -
     
The King of heaven is shortly coming In splendour no-one has ever seen; Death, great hell, and the grave Fear to look on his countenance. But all the brilliant lovers of my God Who once were dead, but now alive; Unutterable joy springs While looking at his beautiful face. All they will see is but grace, Grace which began before the world was; A streaming, great river of peace, And love alone in his countenance. The world shall burn to fine ash, The creation shall turn like before; The planets shall fall despite their size, Jesus will be King over his saints. When the stars of the sky fall down, And when the great, bright sun is extinguished; Despite how great is the coming storm, Safe I shall be in his hand. Oh come, blessed, happy hour, The morning dawn of a great eternity; Pain is my pleasures, pain my life, While sinning against the blood of the cross. I shall see Day-star rising, I shall hear the singing that will be then; Angels together with the saints as one, Keeping the company of the Son of Man. On Calvary he paid, The greatest, heaviest demands of heaven; Now is the sad prisoner, Delightfully, joyfully coming free. The merit of my great Saviour, Suffering pain between heaven and earth, is Greater in virtue great millions of times Than the merit of the saints of heaven and earth. Let there be no region before long, From the east to the southern land, Where the costly salvation be not Flooding the corners of them all. O may the last day come to fulfilment, Let mention of things pass away which are; Nor the world, nor its ostentation, nor its woe, nor its pain, But singing forever about the blood of the Lamb.
The King of heaven is shortly :: See, yonder is the great King
shortly :: quickly
::
pain my life :: pain is my anguish

                   - - - - -


See, yonder is the great King coming,
With a splendour no-one has seen before;
  Death, great hell and the grave are
  Fearing to look on his face.

The world with burn to fine ash,
The creation will turn like before;
  The planets will fall, despite their size,
  Jesus will be the King over his saints.

I see the Daystar rising,
I hear the singing there will be there;
  Angels with the saints as one,
  Keeping the company of the Son of Man.

See the host of pilgrims now,
Saved in the great storms:
  Under Sinai he upheld them,
  What enemy shall overcome them any more?

With the blood of the Lamb
    redeem them he did,
Their names amongst the saints were found;
  They were accounted faultless,
  Of the number of the blessed ones.

What matter is it to all those
To get scorned by the world?
  Their good name, and their honour,
      and their renown,
  Are kept in heaven above.
tr. 2014,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~