Mae carcharorion angau Yn dianc o'u cadwynau, A'r ffordd yn olau dros y bryn O ddyfnder glyn gofidiau; Cyhoedder y newyddion, A gorfoledded Seion, Mae'r Iesu ar ei orsedd wen, Ac ar ei ben bo'r goron! Cynefin iawn a dolur Fu'r Iesu yn fy natur, Gogoniant byth i'w enw Ef Am ddioddef dros bechadur! Yn addfwyn dan yr hoelion, A dwyfol waed ei galon Fy mhrynu wnaeth Tywysog nen, Ac ar ei ben bo'r goron! Dilynaf yn ei lwybrau, A chanaf yn fy nagrau, Mae mwy na digon yn yr Iawn I faddau'n llawn fy meiau; Er dued yw fy nghalon, Mae'r Iesu'n dal yn ffyddlon: Eiriolwr yw tu hwnt i'r llen, Ac ar ei ben bo'r goron!Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tonau [7787D]: |
The prisoners of death are Escaping from their chains, And the way is light across the hill From the depth of the vale of griefs; Let the news be published, And let Zion rejoice, Jesus is on his white throne And on his head be the crown! Acquainted well with sadness Was Jesus in my nature, Glory forever to His name For suffering for a sinner! Meek under the nails, And the divine blood of his heart He bought me did the Prince of heaven, And on his head be the crown! I will follow in his paths, And sing in my tears, There is more than enough in the Ransom To forgive fully my faults; Though so black be my heart, Jesus keeps faithful: He is an intercessor beyond the curtain, And on his head be the crown!tr. 2010 Richard B Gillion |
|