Mae cariad rhad ein Iesu cu

Mae cariad rhad ein Iesu cu,
Y ffyddlon iawn, fel angau'n gry',
  Yn uwch nag uchder
      nen i'r llawr,
  Yn ddyfnach na'r dyfnderoedd mawr.

Yn ngrym ei gariad dwyfol, rhad,
Y daeth o fynwes bur ei Dad,
  I glymu'n natur wael ei llun,
  Yn un â'i Berson mawr ei hun.

Ein dyled mawr, oedd fwy ei ri',
Na deall yr angylion fry,
  Talodd yn llwyr, daeth â rhyddhad,
  A chyfiawn hawl i'r nefol wlad.

Caru'i ddyweddi 'nawr mae Ef
Yn ddigyfnewid yn y nef;
  Ac yn ei chur a'i dwfn bla
  Achub a chydymdeimlo wna.
Casgliad o Hymnau (Calfinaidd) 1859

[Mesur: MH 8888]

The free love of our dear Jesus, is
Very faithful, like death strong,
  Higher than the height
      of the sky to the ground,
  Deeper than the great depths.

In the force of his free, divine love,
He came from the pure bosom of his Father,
  To tie our nature of a base condition,
  As one with his own great Person.

Our great debt, which was greater in number,
Than the angels above understand,
  He paid in full, he brought freedom,
  And a righteous claim to the heavenly land.

Loving his betrothed now is He
Unchanging in heaven;
  And in his blow and his deep plague
  Save and sympathise he will.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~