Mae Crist y Meddyg mawr, Yn gwella pob rhyw glwy'; Dyneswn ato'n awr, Heb oedi dim yn hwy; Yr enaid clwyfus caiff wellhad, Mae meddyginiaeth Duw yn rhad. Iacháu cenhedloedd byd, Trwy rinwedd gwaed y groes, Mae'r Meddyg mawr o hyd Heb ball, o oes i oes; Diderfyn, fel ehangder nef, Ei allu a'i ewyllys Ef. Mewn cydymdeimlad llwyr Y gwrendy ar y gwael, A'r hwn sy'n ceisio, gŵyr Ba le mae Ef i'w gael; Mae'n agos atom i'n gwellhau, A'i gydymdeimlad yn parhau. Anturiwn oll, yn llawn O hyder, at ei draed, A meddyginiaeth gawn Trwy rin ei werthfawr waed; Dan glwyfau pechod o bob rhyw Awn ato Ef, a byddwn fyw.Robert Arthur Williams (Berw) 1854-1926
Tonau [666688]: |
Christ the great Physician is Healing every kind of wound; Let us draw near to him now, Without delay any longer; The wounded soul may get made better, The medical treatment of God is free. Healing the nations of the world, Through the merit of the blood of the cross, The great Physician is still Without failure, from age to age; Endless, like the breadth of heaven, His power and His will. In complete sympathy He listens to the poor, And he who seeks Him knows Where He is to be found; He is near to us to make us better, And his sympathy endures. Let us all venture, full Of boldness, to his feet, And medical treatment let us get Through the message of his precious blood; Under the wounds of sin of every kind Let us go to Him, and we shall live.tr. 2019 Richard B Gillion |
|