Mae Crist yn bob peth i'r holl saint; Pa le mae neb mor fawr eu braint? Crist yw eu rhan, Crist yw eu brawd; Nid all y rhai'n fod byth yn dlawd. Crist trwy ei waed a'u gwnaeth yn rhydd, Crist yw yr haul sy'n gwneud eu dydd: Crist drwy ei air a'u gwnaeth yn fyw - Crist yw eu drws a'u ffordd at Dduw. Crist yw y graig a'u deil i'r lan, Er nad ynt hwy ond llesg a gwan, I'r nef hwy ânt er llid y ddraig, Gan fod eu pwys ar Had y wraig. Crist yw y gair a wnaed yn gnawd: Crist er eu mwyn a ddaeth yn dlawd: Nid oes fath wledd â'i gnawd a'i waed, I'r tlawd mae'r wledd i gyd yn rhad. Crist erddynt aeth i lawr i'r bedd; Trwy Grist a'i waed maent yn cael hedd: Crist ar eu rhan sy'n byw'n y nef, Ar fyr cânt oll fod gydag ef. yw yr haul :: yw eu haul
Tonau [MH 8888]:
gwelir: |
Christ is everything to all the saints; Where is anyone with such a great privilege? Christ is their portion, Christ is their brother; Such can never be poor. Christ through his blood set them free, Christ is the sun which makes their day: Christ through his word made them alive - Christ is their door and their way to God. Christ is the rock that holds them up, Although they are only feeble and weak, To heaven they go despite the dragon's wrath, Since they lean on the woman's Seed. Christ is the word that was made flesh: Christ for our sake became poor: There is no such feast as his flesh and his blood, For the poor the feast is altogether free. Christ for their sake went down to the grave; Through Christ and his blood they are getting peace: Christ on their behalf is living in heaven, Shortly they shall all get to be with him. is the sun :: is their sun tr. 2017,19 Richard B Gillion |
|