Mae cyfraith Ion yn berffaith lân

1,2,(3,4,5);  1,3,5.
(Gwerthfawrogrwydd y Gair)
Mae cyfraith Ion yn berffaith lân,
  Un heb wahân yw hono;
Er rhoddi'r gair mewn llawer oes,
  Dim gwyrni nid oes ynddo.

Troi enaid mae,
    troi calon dyn,
  Troi'r cyndyn yn ufuddol,
Troi'r dywyll nos fel bore wawr,
  Trwy fendith fawr dragwyddol.

Mae'n llusern i oleuo'r gwan
  Yn gysson, gan ei dywys
Trwy orthrymderau'r anial dir
  Yn gywir i baradwys.

Yn ei oleuni ef, fel haul,
  Mae Adda'r ail, a'i degwch,
Yn dwyn in', trwy anfeidrol ddawn,
  Ryw fywyd llawn o heddwch.

Myrdd mwy dymunol
    yw nag aur
  Llesâd y gair i'r gweiniaid;
Mae'n drysor mwy a chanmil gwell
  Nâ'r India bell i'r enaid.
Richard Jones ?1771-1833

[Mesur: MS 8787]

(The Value of the Word)
The Lord's law is perfectly holy,
  One without exception is this;
Although giving the word in many an age,
  There is no swerving in him.

Turning a soul it is,
    turning a man's heart,
  Turning the obstinate obedient,
Turning the dark night like morning dawn,
  Through a great eternal blessing.

It is a lantern to lighten the weak
  Constantly, while leading him
Through the afflictions of the desert land
  Truly to paradise.

In his light, like sun,
  Is the second Adam, and his fairness,
Bringing us, through an immeasurable gift,
  Some life full of peace.

A thousand times more desirable than gold
  Is the benefit of the word to the weak;
It is a greater treasure and
    a hundred thousand times better
  The the distant India to the soul.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~