Mae cymorth mewn cyfyngder Hawdd ei gael, A chusur yn y dyfnder Hawdd ei gael; Ynghanol blin ystomydd, Ac ymchwydd yr afonydd, Mae Ceidwad ar y glennydd Hawdd ei gael; Yn gysgod rhag dialydd Hawdd ei gael. Wynebodd ar beryglon Ar fy ôl, A hiraeth ar Ei galon Ar fy ôl; Aeth drwy gawodydd dagrau, Garadwydd a gofidiau, Ac i ddyfnderoedd angau Ar fy ôl; A'i waed yn lliwio'r creigiau Ar fy ôl. Mae cyfoeth Duw Ei Hunan Ynddo Ef, A bywyd nef yn gyfan Ynddo Ef; Caf fythol oruchafiaeth Ar bechod a marwolaeth Ar dir fy etifeddiaeth Ynddo Ef; A chanu buddugoliaeth Ynddo Ef.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 73.73.7773.73] |
There is help in straits Easy to get, And comfort in the depth Easy to get; In the midst of grievous storms, And the swelling of the rivers, There is a Saviour on the banks Easy to get; Shadowing against vengeance Easy to get. Who faced dangers For me, With a longing in his heart For me He wen through showers of tears, Mockery and griefs, And to the depths of death For me; With his blood colouring the rocks For me. The wealth of God himself is In him, And the life of heaven wholly In him; I have everlasting triumph Over sin and mortality On the land of my inheritance In him; And singing victory In him.tr. 2024 Richard B Gillion |
|