Mae Duw yn llond pob lle, Presennol ym mhob man; Y nesaf yw Efe O bawb at enaid gwan; Wrth law o hyd i wrando cri: "Nesáu at Dduw sy dda i mi." Yr Arglwydd sydd yr un, Er maint derfysga'r byd; Er anwadalwch dyn, Yr un yw Ef o hyd: Y graig ni syfl ym merw'r lli; "Nesáu at Dduw sy dda i mi". Yr hollgyfoethog Dduw, Ei olud ni leiha; Diwalla bob peth byw O hyd a'i 'wyllys da; Un dafn o'i fôr i ni "Nesáu at Dduw sy dda i mi". Pa ham y trof yn ffol At ail achosion mwy? Mae'r Achos mawr tu ol, Effeithiau ydynt hwy: Ar deg a gwlaw, mewn trai a lli, "Nesáu at Dduw sy dda i mi". Mewn trallod, at bwy'r âf, Ar ddiwrnod tywyll du? Mewn dyfnder, beth a wnaf, A'r tonnau o'm dau tu? O fyd! yn awr, beth elli di? "Nesáu at Dduw sy dda i mi". Anwadal hynod yw Gwrthrychau gorau'r byd; Ei gysur o bob rhyw, Siomedig yw i gyd; Rhag twyll ei wên, a swyn ei fri, "Nesáu at Dduw sy dda i mi".David Jones 1805-68
Tonau [666688]: gwelir: Mewn trallod at bwy'r âf? Pa ham y trof yn ffol? |
God is the fullness of every place, Present everywhere; The nearest is He Of all to a weak soul; At hand always to hear a cry: "It is good for me to draw near to God." The Lord is the same, Despite the tumult of the world; Despite man's fickleness, The same is He still: The rock not shifting in the boiling of the flood; "It is good for me to draw near to God." The God possessing all riches, His wealth will not decline; He will satisfy every living thing Continually with his good will; One drop from his sea to us "It is good for me to draw near to God." Why will I turn foolishly To other causes any more? The great Cause is behind, They are effects: On fair and rain, in ebb and flood, "It is good for me to draw near to God." In trouble, to whom shall I go, On the dark, black day? In depth, what shall I do, With the waves on both sides of me? O world, now, what canst thou do? "It is good for me to draw near to God." Notably inconstant are The best objects of the world; Its comfort of every kind, Is altogether disappointing; From the deceit of its smile, and the charm of its esteem, "It is good for me to draw near to God."tr. 2009,11 Richard B Gillion |
|