Mae Duw'n weithiwr rhydd, i wneyd fel y mynno; Gall faddeu dyledion plant dynion, neu'u damnio; Os damnia droseddwyr ei sanctaidd orch'mynion, Pwy all ddwyed am dano, ni wnaeth weithred union? Os myn drugarhau, gall wneyd hyny'n gyfiawn: A phob Prïodoledd, a'r gyfraith yn foddlawn. Os dewis Mab Duw y cyfryw bechadur, Fu'n fwyaf annuwiol, un bydol a budr; Gall osod ar hwnw ei ddelw hardd olwg, Er gwaethaf holl wenwyn pob gelyn a'i gilwg, Heb dorri un iod o'i hynod wirionedd; Fe dalodd eu dyled i bob Prïodoledd. Er gwrthu o'n tad Adda ei hun a'i ddedwyddwch, Na feddai hawl bendant na haeddiant i heddwch; Ni roes ein Tad nefol mo'i law wrth y weithred; Mewn un modd i dorri ei hawl i'w greaduriaid; Ond mae ef yn rhydd, heb neb all ei attal I alw pob gwrthddrych mae'n chwennych, a chynnal. Os geilw'r dyn brynta', neu ddua' ar y ddaear, Sy'n ddall genedigol, anfuddiol, neu'n fyddar, Neu un sy'n llawn anaf, neu'n glaf wahanglwyfus, Mae ganddo hawl Dduwiol i alw, neu ddewis: Os cyfyd ryw hên Fagdälen i'w deulu, Gall, o'i Ben-arglwyddiaeth, droi pawb, i'w hymg'leddu. Gall ddwyn dyn cythreulig, ga'dd ei gaeth-rëoli, Yn gwbl gan ddïafol, Na's gellid mo'i ddofi; A'i dirion arafu, i'w wneuthur mor ufudd, Yn Gristion diniwed, a chrëadur newydd; A'i ddwyn ef i'w dŷ, a than ei ddysgyblaeth, I gael mwynhau gwleddoedd ei hen Ben-arglwyddieth. Os dewis ryw Ddafydd yn llywydd galluog, O fysg y corlàau, yn frenin calònog; A gadael i'w frodyr, i gyd ymhyfrydu, Heb attal ei gyd-blant, i'w erlid, a'i gablu; Pwy feiddia, o hyd ei fywyd, ei feio? Mae'n Ben-Arglwydd manwl, all wneyd fel y mynno. Gall ddewis dyn diras, fel Sudda, i swyddau; Os myn Duw ei ethol, i garrio'r gôd weithiau; A'i adael ef wed'yn, yn un a'i hen anian, Yn ngafael ei lwgr, a'i gyflwr drwg aflan: Pwy ddywed mor ffol, iawn-ethol ni wnaethost? Y mae dy weithredoedd yn annoeth a rhy-dost? Y rhai sydd â'i taith trwy helaeth dreialon, Mae Duw yn eich gweled, na fyddwch ddi-galon; Fe'ch dŵg trwy bob tywydd, mae'n Llywydd galluog; Erioed, neb ni fethodd, mae'n Dduw holl-gyfoethog, Gall beri i'r holl fyd, y munid y mynno Wneyd lles megis Cyrus: i'w blant, a'u cysuro.Edward Jones 1761-1836 Hymnau &c. ar Amryw Destynau ac Achosion 1810 [Mesur: 12.12.12.12] |
God is a free agent, to do as he will; He can forgive the debts of the sons of men, or damn them; If his sacred commandments damn transgressors, Who can say about him, he did no upright deed? If he will show mercy, he can do that righteously: With every attribute, and the law satisfied. If the Son of God chooses such a sinner, Who was the most ungodly, worldly one and filthy; He can set on him the image of his beautiful likeness, Despite all the poison if every enemy and his scowl, Without breaking one jot of his notable truth; He paid their debt to every attribute. Despite the selling of our father Adam himself and his happiness, He possessed no definite claim Or right to peace; Our heavenly Father did not put his hand to the deed; By any means to break his claim to his creatures; But he is free, with none to prevent him From calling every object he pleases, and uphold. If he calls the filthiest man, or blackest on the earth, Who is blind from birth, useless, or deaf, Or one who is full of wounds, or suffering from leprosy, He has the divine right to call, or to choose: If he raises some old Magdalen to his family, He can, of his chief-lordship, turn all, to succour her. He can bring a demonic man, who was possessed, Completely by the devil, that could not be tamed; Tenderly to restrain him, to make him so obedient, As a harmless Christian, and a new creature; And bring him to his house, and by his discipline, To get to enjoy the feasts of his old chief-lordship. If he chooses some David as an able leader, From among the sheepfolds, as a hearty king; And lets his brothers, all delight, Without preventing his fellow-children from persecuting or reviling him; Who shall dare, all his life long, blame him? He is an exact Chief-lord, who can do as he will. He can choose a graceless man, like Judas, to rôles; If God decides to choose him, to carry the bag sometimes; And leave him then, as one with his old nature, In the grip of his corruption, and his evil, unholy state: Who says so foolishly, Thou didst not elect rightly? Thy deeds are unwise and too severe? Those whose journey is through extensive trials, God is seeing you, be ye not down-hearted, He shall lead you though every weather, he is an able Guide; He never lost anyone, he is a supremely rich God, He can cause the whole world, the minute he decides To act for the benefit, like Cyrus, of his children, and comfort them.tr. 2023 Richard B Gillion |
|