Mae efengyl gras yn t'wynu

1,2,3,(4,5,6,7,8);  1,3,(4,(5,6)).
(Udgorn yr Efengyl)
Mae efengyl gras yn t'wynu,
  Mawr yw'r fraint,
      mawr yw'r fraint,
I gasglu llafur Iesu,
  Mawr yw'r fraint!
Mae lluoedd maith yn barod,
Yn y Gaersalem uchod,
A thyrfa fawr yn dyfod
  (Mawr yw'r fraint,
      (mawr yw'r fraint,))
Dan faner Iesu isod:
  Mawr yw'r fraint!

Mae'r bwrdd yn llawn danteithion,
  Dowch yn mlaen, dowch yn mlaen,
Gan sanctaidd Frenin Sion,
  Dowch yn mlaen;
Cawn wledda oll yn ddiddig,
Fry, ar y llo pasgedig,
Ac yfed gwin puredig,
  (Dowch yn mlaen, (dowch yn mlaen,))
Gwir haeddiant Iesu'n unig:
  Dowch yn mlaen.

Mae uffern gwedi ei maeddu,
  Diolch byth, diolch byth!
A'r dyled gwedi ei dalu,
  Diolch byth!
Mae T'wysog mawr y bywyd,
Fry ar ei orsedd hyfryd,
Yn eiriol dros ei anwylyd;
  (Diolch byth! (Diolch byth!))
Cawn ddianc uwchlaw adfyd,
  Diolch byth!

Aeth llu o'r genedl gyflon,
  Oll yn iach, oll yn iach,
I sanctaidd ddinas Sïon,
  Oll yn iach:
Mae etto dyrfa'n dyfod,
O'r cystudd mawr a'r trallod,
Cawn yno gyd gyfarfod,
  (Oll yn iach, (Oll yn iach,))
Ar ddysglaer wedd ein Priod;
  Oll yn iach.

Cawn hyfryd deml newydd,
  Cyn bo hir, cyn bo hir;
Heb lygredd yn dragywydd,
  Cyn bo hir:
Fry, gydâ'r duwiol deulu,
Sy'n moli'r Arglwydd Iesu,
Gan uchel lawenychu,
  (Cyn bo hir, (Cyn bo hir,))
Heb elyn i'n gorthrymu,
  Cyn bo hir.

O Rhedwn bawb yr yrfa,
  Dyma'r dydd, dyma'r dydd, 
I'r bywyd am y cynta',
  Dyma'r dydd; 
Aeth gwlaw a'r gauaf heibio,
Mae'r ddaear yn blodeuo,
A'r adar yn ymbincio,
  (Dyma'r dydd, (Dyma'r dydd,))
Mae'r durtur fwyn yn seinio,
  Dyma'r dydd.

Yn wyneb gorthrymderau,
  Af ym mlaen, âf ym mlaen;
A duon ragluniaethau,
  Af ym mlaen:
Er môr a'i dònau mawrion,
A dyfroedd Mara chwerwon,
Yn nghyd â'm holl elynion,
  (Af ym mlaen, (âf ym mlaen,))
Nes gorphwys fry yn Sïon,
  Af ym mlaen.

'Does yma ond
    trai a llanw,
  I barâu, i barâu;
Ac yfed cwpan chwerw,
  I barâu;
Ond yn y Ganaan nefol,
Dim eisieu yn drag'wyddol,
Gaf ddysglaer ddyfroedd bywiol,
  (I barâu, (i barâu,))
A'i yfed yn wastadol,
  I barâu.
Grawn-Sypiau Canaan 1805
3: priodolwyd i Morgan Rhys 1716-79

Tonau [73(3).73.777(3).73(3)]:
  Pen yr allt (<1835)
Rhosbeirio (William Davies)
Trefeglwys (John Ashton 1830-96)
Twrgwyn (alaw Gymreig)

gwelir:
  Aeth llu o'r genedl gyfion
  Mae bwrdd yn llawn danteithion
  O rhedwn bawb yr yrfa
  Yn wyneb gorthrymderau

(The Trumpet of the Gospel)
The gospel of grace is shining,
  Great is the privilege,
      great is the privilege,
To gather the labour of Jesus,
  Great is the privilege!
Vast hosts are already,
In the Jerusalem above
And a great throng coming
  (Great is the privilege,
      (great is the privilege,))
Under the flag of Jesus below:
  Great is the privilege!

The table is full of delicacies,
  Come on, come on,
By the holy King of Zion,
  Come on;
We shall get to feast peacefully,
Above, on the paschal calf,
And drink purified wine,
  (Come on, (come on,))
The true virtue of Jesus alone:
  Come on.

Hell has been beaten,
  Thanks forever, thanks forever!
And the debt has been paid,
  Thanks forever!
The great Prince of life,
Above on his lovely throne,
Interceding for his beloved;
  (Thanks forever, (thanks forever!))
We may escape above adversity,
  Thanks forever!

A host of the righteous generation went,
  All safe, all safe,
To the holy city of Zion,
  All safe:
There is still a throng coming,
From the great affliction and tribulation,
There we may get to meet together,
  (All safe, (All safe,))
At the shining face of our Spouse;
  All safe.

We shall get a lovely new temple,
  Before long, before long;
Without corruption in eternity,
  Before long:
Above, with the godly family,
Who are praising the Lord Jesus,
With loud rejoicing,
  (Before long, (before long,))
With no enemy oppressing us,
  Before long.

O let us all run the course,
  This is the day, this is the day,
To the life for the first,
  This is the day;
Rain and the winter have gone past,
The earth is flourishing,
And the birds are preening themselves,
  (This is the day, this is the day,))
The gentle turtle-dove is sounding,
  This is the day.

In the face of oppressions,
  I will go on, I will go on;
And black providences,
  I will go on:
Despite a sea and its great waves,
And the bitter waters of Mara,
Together with all my enemies,
  (I will go on, (I will go on,))
Until resting above in Zion,
  I will go on.

There is nothing here but
    ebbing and flowing,
  To endure, to endure;
And drinking a bitter cup,
  To endure;
But in the heavenly Canaan,
No lack eternally,
I shall have bright, living waters,
  (To endure, (to endure,))
And drink it continually,
  To endure.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~