Mae galwad heddyw yn parhâu

(Galwad i bechadur)
Mae galwad heddyw yn parhâu,
  I mi â'r beiau mawr;
A chroesaw etto i godi'm llêf
  Fry tu a'r nef yn awr,
Tryw'r Archoffeiriad
    gwych di-ffael,
  Sydd wedi' gael yn un di-goll:
Di-fai i Ddyw yw, yn ddïau;
  Di-fai i ninnau oll.

Trowch ataf fi, medd Duw o hyd,
  Holl gyrau'r byd
      sy'n gaeth;
Fel y'ch achuber rhag fy llid;
  A phrofi gofid gwaeth:
Pe byddai eich pechodau chwi
  Fel porphor wedi cochi; cewch
Eich gwneyd mor lân a'r eira gwỳn;
  Yn sydyn cyd-nesewch.

Mae'r Arglwydd heddyw'n galw a'r g'oedd,
  O, de'wch i'r dyfroedd, de'wch;
Bawb sy'n sychedu am ddyfroedd byw;
  Digonedd Duw a gewch:
Cewch yfed ffrwyth gwinwydden bur,
  A gwleddoedd cariad heb ddim cur;
Gadewch holl gibau, seigiau sur,
  Y moch, a'u sawyr mwy.
Edward Jones 1761-1836
Hymnau &c. ar Amryw Destynau ac Achosion 1820

Tôn: Cynddelw (J A Lloyd 1815-74)

(A call to a sinner)
There is a call today continuing,
  To to with the great faults;
And a welcome still to raise my cry
  Up towards heaven now,
Through the brilliant, unfailing
    Great High Priest,
  Who has been found a flawless one:
Faultless to God his is, without doubt;
  Faultless to us all too.

Turn ye to him, says God always,
  All ye corners of the world
      that are captive;
That ye be saved from my wrath;
  And experience worse grief:
If your sins were
  Like purple having reddened; ye may
Be made as clean as the white snow;
  Immediately draw near together.

The Lord is calling today publicly,
  O, come ye to the waters, come;
All who are thirsting for living waters;
  The sufficiency of God ye me get:
Ye may drink the fruit of the pure vine,
  And the feasts of love without pain;
Leave ye all the sour, empty pods
  Of the pigs, and their savour evermore.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~