Mae gelynion i mi'n chwerw

(Duw yn ddigon yn wyneb pob gelyn)
1,2,3,(5),6,7;  1,4,5.
Mae gelynion i mi'n chwerw,
  Cedyrn y'nt a mawr ei grym;
Ond y rhai wy'n ofni fwya',
  I ti fy IOR nid ydynt ddim:
    Gair o'th enau, &c,
Gwympa fyrdd mewn mynud awr.

O distewch derfysglyd donnau,
  Tra hwy'n gwrando
        llais y nef;
Sŵn mwy hôff
      a sain rhwy hyfryd,
  Glywir yn ei eiriau ef:
    F'enaid gwrando, &c.
  Lais tangnefedd pur a hedd.

Duw, nid oes ond ti dy hunan,
  Dddaw â'm henaid llesg i'r lann;
Sydd yn suddo mewn dyfnderoedd,
  Dyfnion tywytll ym mhob man:
    Gwna i'm gredu, &c.
  Credu a cherdded ar y môr.

Pa'm caiff hwnw
      unwaith brynaist
  Ar Galfaria 'ngŵydd y ne'
Lechu mewn rhyw bydew tywyll,
  Dwfn obry, i maes o'i le?
    Pen y bryniau,
  Mae fy llygaid yn fwynhau.

Draed lluddedig dewch i fynu,
  Ymestynwch, ddwylo, 'mlaen,
Draw mae'r wobr, draw mae'r goron,
  Draw mae Mhriod hawddgar glân;
    Ffarwel bellach,
  Chofia'i ddim
      ond pen fy nhaith.

Mae dy yspryd di yn fywyd,
  Mae dy yspryd di yn dân;
Efe sy'n dwyn yr holl fforddolion,
  Cywir, sanctaidd, bur y'mlaen:
    Cyfarwyddwr, &c.
  Pererinion, arwain fi.

Yr wyf fi'n caru'r pererinion,
  Ar y bryniau serth y sy,
Ar eu traed ac ar eu dwylaw,
  Yn ceisio dringo fynu fry;
    Ar fy neulin, &c.
  Minnau ddof i ben y bryn.
derfysglyd donnau :: gynddeiriog dònau

- - - - -

(Hollaluogrwydd ac Awdurdod Duw)

Mae gelynion i mi'n chwerw,
  Cedyrn y'nt a mawr ei grym;
Ond y rhai wy'n ofni fwyaf,
  I ti f'Arglwydd nid y'nt ddim:
    Gair o'th enau, &c.
  Gwympa fyrdd mewn mynud awr.

Moab ffy wrth rym dy gleddyf,
  Midian gwymp,
        pan dd'wedst air;
Sŵn dy daran ddychrynadwy,
  I Philistia grynu bair:
    Ti dy hunan, &c.
  Yn mhob brwydyr bia'r dydd.

Mae dy Enw mor ardderchog,
  Fel y'ngrym y 'storom gref,
Llaesa'r gwyntoedd, llaesa'r tònau,
  Dim ond imi ei enwi Ef:
    Noddfa gadarn, &c.
  Yw yn eitha' grym y dŵr.

Nid oes elyn îs y nefoedd
  Ddichon roddi imi glwy';
Yn dy gwmni, nid oes gallu,
  Gan un gelyn cadarn mwy:
    Ar dy deyrnas, &c.
  Nid oes diwedd, nid oes tranc.

Daear, nef, ac uffern greulon,
  Sydd yn hollol dan dy law;
Dy ddoethineb sydd yn trefnu
  'R dwyrain, de, a'r gogledd draw:
    Ti bia'r cwbl, &c.
  Cymer f'enaid it' dy hun.

William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Llanilar (John Roberts 1822-77)
St Peter (alaw Eglwysig)

gwelir:
  Chwi ffynnonau bywiol hyfryd
  Duw nid oes ond ti dy hunan
  Gwyn a gwridog yw f'Anwylyd
  Iesu Iesu 'rwyt ti'n ddigon
  Iesu nid oes ond dy hunan
  Mae dy Enw mor ardderchog
  Mae dy Ysbryd di yn fywyd
  Ni feddyliais fod fy siwrnai
  'Rwi'n dy garu er nas gwelais
  'Rwyf yn caru'r pererinion
  Rho oleuni rho ddoethineb

(God as sufficient in the face of every enemy)
 
Enemies are bitter to me,
  Firm they are and great their force;
But those I fear the most,
  To thee my LORD are nothing:
    A word from thy mouth,
  A myriad shall fall within a minute.

O be quiet, ye tumultuous waves,
  While they listening to
        the voice of heaven;
A sound more lovely
      and a sound more delightful,
  Is to be heard in his words:
    My soul, hear,
  The voice of pure tranquility and peace.

God, there is nothing but thou thyself,
  Who will bring my weak soul up;
Which is sinking in depths,
  Deeps of darkness in every place:
    Make me believe,
  Believe and walk on the sea.

Why should that
      which thou once didst purchase
  On Calvary in the sight of heaven
Lurk in some dark pit
  Deep below, out of its place?
    The top of the hills,
  My eyes are enjoying.

Ye corrupt feet, come up,
  Stretch, ye hands, forwards,
Yonder is the prize, yonder is the crown,
  Yonder is my beautiful, holy Spouse;
    Farewell henceforth,
  I shall remember nothing
        but my journey's end.

Thy spirit is life,
  Thy spirit is fire;
He is leading all the wayfarers,
  True, holy, pure, forwards:
    Guide,
  Of pilgrims, lead me.

I am loving the pilgrims,
  Who are on the steep hills,
On their feet and on their hands,
  Trying to climb up above;
    On my knees,
  I too will come to the top of the hill.
tumultuous waves :: furious waves

- - - - -

(God as sufficient in the face of every enemy)

Enemies are bitter to me,
  Firm they are and great their force;
But those I fear the most,
  To thee, my Lord, they are nothing:
    A word from thy mouth,
  A myriad shall fall within a minute.

Moab shall flee at the force of thy sword,
  Midian shall fall,
        when thou sayest a word;
The sound of thy terrifying thunder,
  Shall cause Philistia to tremble:
    To thee thyself,
  In every battle shall belong the day.

Thy Name is so excellent,
  As in the force of the strong storm,
The winds ease, the waves ease,
  Nothing to me but to name Him:
    A firm refuge,
  He is in the extreme force of the water.

There is no enemy under heaven
  Able to give me a wound;
In thy company, there is no ability
  By any firm enemy any more:
    To thy kingdom,
  The is no end, there is no passing.

Earth, heaven, and cruel hell,
  Are wholly under thy hand;
Thy wisdom is arranging
  The east, south, and yonder north:
    To thee belongs the whole,
  Take my soul to thee thyself.

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~