Mae grasusau heb eu haeddu Ar ein bwrdd o hyd yn llawn, A chysuron yn diferu Ar ein lwybrau, llawenhawn! Nid oes prinder yn ein dilyn, Y mae môr tu cefn i'r ffrwd; Duw sydd yn coroni'r flwyddyn, Ac sydd yn bendithio'i chnwd. Coed y maes sy'n curo dwylw, Bloeddiant ganu dan eu llwyth; A fydd calon dyn yn ddistaw Wrth fwynhau y grasol ffrwyth? Mae canghennau ffrwythlon natur Yn ymgrymu tua'r llawr, Ac yn dysgu i bechadur Gofio Duw rhagluniaeth fawr. Nid y ddaear fu'n cynllunio Coron hardd y flwyddyn hir; Cariad dwyfol sy'n disgleirio Ym mhob perl ohoni'n wir; Tyfodd gobaith blwyddyn newydd Gyda'r grawn, a digon yw; Na foed ein telynau'n llonydd, Canwn, ac addolwn Dduw.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tonau [8787D]: |
There are graces undeserved On our table always full, And comforts dripping On our paths, let us rejoice! There is no scarcity following us, A sea is behind the stream; It is God who is crowning the year, And who is blessing its crop. The trees of the field are clapping hands, They shout songs under their load; Shall the heart of man be silent While enjoying the gracious fruit? The fruitful branches of nature are Bowing towards the ground, And teaching a sinner To remember the God of great providence. 'Twas not the earth that purposed The beautiful crown of the long year; Divine love is radiating In every pearl from it truly; Hope of a new year grew With the grain, and sufficient it is; Let our harps not be still, Let us sing, and worship God.tr. 2020 Richard B Gillion |
|