Mae Iesu Grist yn Brophwyd mawr

1,2,3,(4),5.
(Y Prophwyd Mawr)
Mae Iesu Grist yn Brophwyd mawr,
  Y mwyaf yw i gyd:
Er maint ein tywyllwch, wele wawr,
  Crist yw Goleuni'r byd.

O Brophwyd mawr! i'w enw boed
  Anrhydedd a mawrhad;
Daeth â'r newyddion goreu erioed,
  Am iachawdwriaeth rad.

Mae yn amlygu pethau y ne'
  Yn eu prydferthwch coeth:
Pwy sydd yn dysgu fel Efe?
  Mae'n gwneud y ffol yn ddoeth!

O Brophwyd mawr yn Sîon sydd,
  Ti a oleuaist fyrdd;
A'th air, a'th Ysbryd, etto bydd
  I'm harwain yn dy ffyrdd.

Dwg fi, y ffolaf un a gaed,
  O'r dwfn dywyllwch du;
Gad imi eistedd wrth dy draed
  i wrandaw d'eiriau cu.
Roger Edwards 1811-86

Tonau [MC 8686]:
French (The CL Psalmes of David 1615)
Mount Pleasant (<1835)
St Stephen (William Jones 1726-1800)

(The Great Prophet)
Jesus Christ is a great Prophet,
  The greatest he is altogether:
Despite our darkness, see a dawn,
  Christ is the Light of the World.

O great Prophet! to his name be
  Honour and majesty;
He brought the best news ever,
  About free salvation.

He makes evident the things of heaven
  In their exquisite beauty:
Who teaches like he does?
  He makes the foolish wise!

O great Prophet who art in Sion,
  Thou hast enlightened a myriad;
And thy word, and thy Spirit, shall yet
  Lead me in thy ways.

Bring me, the most foolish one ever had,
  From the deep black darkness;
Let me sit at thy feet
  I listen to thy dear words.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~