Mae'm golwg acw tua'r wlad
Mae 'ngolwg acw tua'r wlad

1,2,(3),4,5;  1,3,4,5,2;  1,4.
(Digonedd yr iachawdwriaeth)
Mae'm golwg acw tua'r wlad,
  Lle mae fy heddwch llawn;
Yr wyf am deimlo'i gwleddoedd pur
  O fore hyd brydnawn.

'Does dim difyrwch yma i'w gael
  A leinw'm henaid cu;
Ond mi ymborthaf ar y wledd
  Sy gan angelion fry.

Mi yfaf ddŵr y ffynnon glir
   Sy o tan y fainc yn dod,
 Ac y mae rhinwedd ynddo'n llawn
   I adferu nerth i'm tro'd.

'Ddiffygiaf ddim,
    er cy'd fy nhaith,
  Tra paro gras y nef;
Ac er mor lleied yw fy ngrym,
  Mae digon ynddo Ef.

Mae'r iachawdwriaeth fel y môr
  Yn chwyddo byth i'r làn;
Mae ynddi ddigon, digon byth,
  I'r truan ac i'r gwan.
Yr wyf am:: Ac 'rwyf am :: O! am gael
deimlo'i :: deimlo eu :: teimlo'i :: brofi'i
'Ddiffygiaf :: 'Ddiffygia'i
cy'd :: cyd

1772 William Williams 1717-91

Tonau [MC 8787]:
Ballerma (alaw Ysbaenaidd / R Simpson)
Beatitudo (J B Dykes 1823-76)
Dolwerdd (George A Thomas)
Dundee / French (Sallwyr Albanaidd 1615)
Gloucester (Ravenscroft's Psalter 1621)
Gräfenberg (Johann Crüger 1598-1662)
St Columba (hen alaw Wyddelig)
St Leonard (Henry Smart 1813-79)
Tallis (Thomas Tallis c.1505-85)
  Thyatira (<1835)

gwelir:
  'D a' i mofyn haeddiant byth na nerth
  Mae'r iachawdwriaeth fel y môr
  Mae ynddo drugareddau fil
  Tyr'd Ysbryd sanctaidd ledia'r ffordd

(The sufficiency of the salvation)
My gaze is yonder towards the land,
  Where my full peace is;
I want to feel it's holy feasts
  From morning until afternoon.

There is no comfort here to be had
  Which fills my dear soul;
But I will feed on the feast
  Which the angels above have.

I will drink the water of the clear fountain
   Which comes from under the throne,
 And the is virtue in it fully
   To restore the strength to my foot.

I will not tire at all,
    despite the length of my journey
  While heaven's grace endures;
And though so little is my strength,
  There is enough in Him.

The salvation is like the sea
  Forever swelling up;
In it there is enough, forever enough,
  For the wretched and for the weak.
I want :: And I want :: Oh to have ...!
feel its :: feel their :: feel its :: experience its
::
::

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~