[Mae meddwl / Myfyrio] am y nefol fro

(Meddwl am y nefoedd)
Mae meddwl am y nefol fro
I mi'n hyfrydwch lawer tro;
  O! na b'ai'r
      munyd o fwynhâd
  Yn oesoedd mewn dragwyddol wlad.

'R wyf am gael profi
    dàn fy mron
Dystiolaeth o fy hawl yn hon;
  Cael profi'r
      gwynfyd pur, di-lŵth -
  Digonedd heb ddigoni byth.

'D yw oesoedd byd
    mo'r munyd awr
Wrth oesoedd tragwyddoldeb mawr:
  O fewn i'r diderfynol dir
  Bydd cartref f'enaid cyn b'o hir.

                - - - - -
(Mwynâd o bresenoldeb Duw)
Mae meddwl am y nefol fro
Yn dwyn hyfrydwch lawer tro;
  Beth am oesoedd o fwynhâd
  O bresenoldeb Duw ein Tad.          [DT]

'Rwy' am gael profi
    dàn fy mron,
Dystiolaeth o fy hawl i hon;
  Cael rhan o'r gwynfyd
      pur, dilith,
  Digonedd heb ddigoni byth.          [DT]

Pan deimlwyf lewyrch wyneb Duw,
Pan allwyf ddweyd mai f'eiddo yw;
  Lawr dan fy nhraed 'r wy'n
    sathru'r byd,
  A'i fawredd a'i bleserau i gyd.     [DD]

Os hyfryd yw, mewn anial wlad,
Gael trem o bell
    ar dŷ fy Nhad;
  Hyfrydwch fydd
      yn llys y nef,
  Gymdeithas agos hoff âg Ef.         [DT]

                - - - - -
(Meddwl am y Nefoedd)
Mae meddwl am y nefol fro
I mi'n hyfrydwch lawer tro;
  O! am gael munud o'r mwynhâd
  Sy'n fythol mewn tragwyddol wlad!

'Rwyf am gael profi
    dàn fy mron,
Dystiolaeth o fy hawl yn hon;
  Cael profi'r gwynfyd
      pur, dilŷth, -
  Digonedd heb ddigoni byth!

                - - - - -
(Trag'wyddol wynfyd)
Myfyrio am y nefol fro
Sy'n dwyn dyddanwch lawer tro;
  Beth am bob mynyd o fwynhad -
  Yn oesoedd, mewn trag'wyddol wlad.

'Rwyf am gael profi
    dan fy mron,
Dystiolaeth o fy hawl i hon,
  Cael ran o'r gwynfyd
      pur, dilŷth,
  Digonedd heb ddigoni byth!
David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822

DD: David Davis 1745-1827

Tonau [MH 8888]:
Blaenau (T Gabriel)
Ernan (Lowell Mason 1792-1872)
Home ( W A Mozart 1756-91)
Kent (John F Lampe 1703-51)
Lancaster (<1868)
Llewelyn St (J R Evans 1866-)
Mainzer (Joseph Mainzer 1801-51)
Mecklenburgh (<1875)
Melodia (Lowell Mason 1792-1872)
St Crispin (George Elvey 1819-93)

gwelir:
  Dy heddwch Ior a gwel'd dy wedd
  Er cael mewn rhan wybodaeth ber
  Rhifedi'r gwlith neu ser y nen

(Thinking about heaven)
Thinking about the heavenly region is
For me a delight many a time;
  O that there might be
      a minute of enjoyment
  In the ages in an eternal country.

I want to get to experience
    under my breast
A witness of my right in that;
  To get to experience
      the pure, unfailing bliss -
  Sufficiency without ever sufficing.

The ages of the world are not
    the minute of an hour
Against the ages of a great eternity:
  Within the boundless land
  Shall my soul's home before long.

                 - - - - -
(Enjoyment of the presence of God)
Thinking about the heavenly region is
Bringing delight many a time;
  What about ages of enjoyment
  Of the presence of God our Father.

I want to get to experience
    under my breast,
Evidence of my right to this;
  To get a portion of the pure,
      unfailing blessedness,
  Sufficiency without ever being sated.

When I feel the radiance of God's face,
When I can say that mine he is;
  Down under my feet I am
      trampling the world,
  And it's greatness and all its pleasures.

If delightful it is, in a desert land,
To get a sight from afar
    over my Father's house;
  Delight there shall be
      in the court of heaven,
  Close, dear fellowship with him.

                - - - - -
(Thinking about Heaven)
Thinking about the heavenly region is
To me delightful many a time;
  Oh to get a minute of enjoyment
  Which is everlasting in an eternal land!

I want to get an experience
    under my breast,
The testimony of my right in this;
  To get to experience the pure,
      unfailing blessedness, -
  Sufficiency without satisfying ever!

                - - - - -
(Eternal blessedness)
Meditating about the heavenly region
Is bringing comfort many a time;
  What about every minute of enjoyment -
  In ages, in an eternal land.

I want to get to experience
    under my breast,
Evidence of my right to this,
  To get a portion of the pure,
      unfailing blessedness,
  Sufficiency without ever being sated!
tr. 2016,20 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~