Mae'n awr (Yn eistedd ar yr orsedd fawr)

(Crist a'i ddyweddi)
      Mae'n awr
yn eistedd ar yr orsedd fawr
Yn Arglwydd uffern, nef, a llawr,
  Hyd fore wawr yr olaf ddydd;
    Pan ollyngo
            ei ddyweddi ddrud,
  O lwch y byd, yn berffaith rydd.

      Yn wir,
pryd hyn fe eilw ei briod bur,
Tyr'd yma i mewn i'th nefol dir,
  'Roed i ti'n hir,
          cyn seiliad byd;
    Dy etifeddiaeth nefol yw,
  Gwerth gwaed dy Dduw,
          a'i boenau drud.

      Y rhai'n,
a wisgir oll a lliain main;
Telynau sydd, o beraidd sain,
  I ganu Anthem faith o glod
    I'r hwn fydd yn teyrnasu mwy,
  Fe gafodd glwy', fe oedd erioed.

      'Fydd son,
am alar, gruddfan, gwae, na phoen,
Yn nghwmni'r addfwyn anwyl Oen,
  O fewn i Sion sanctaidd fry:
    Ond yfed dyfroedd dwyfol clir,
  A ddaeth yn wir, o Galfari.
William Williams 1717-91

[Mesur: 288.888]

gwelir:
  Braint braint (nad ellir byth fynegi'i maint)
  Bryd nawn (Ar y ddedwyddaf awr a gawn)
  Daw dydd (I'r carcharorion fyn'd yn rhydd)
  Mae Mae (Diwrnod hyfryd yn nesau)

(Christ and his betrothed)
      He is now
seated on the great throne
As Lord of hell, heaven and earth,
  Until the last day's morning dawn;
    When he will release
            his precious betrothed,
  From the world's dust, perfectly free.

      Truly,
at that time he will call his pure spouse,
Come here into thy heavenly land,
  Given to thee long before
          the world's foundation;
    Thy heavenly inheritance it is,
  Worth the blood of thy God,
          and his costly pains.

      Those,
shall all be clothed with fine linen;
There shall be harps, of sweet sound,
  To sing a vast anthem of praise
    To him who shall reign for evermore,
  He got a wound, he ever was.

      There shall be no mention
of mourning, groaning, woe, or pain,
In the company of the dear beloved Lamb,
  Within sacred Zion above:
    But drinking clear divine waters,
  That came truly, from Calvary.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~