Mae'n henwau'n sgrifenedig fry Yn llyfr y bywyd mawr; Ni ddichon Satan a'i holl lu Oddi yno'u tynnu i lawr. Er tloted ydym ni yn awr, Er gwaeled yw ein gwedd, Mae inni etifeddiaeth fawr Yr ochor draw i'r bedd. Plant ydym eto dan ein hoed, Yn dysgwyl am y stâd; Mae'r etifeddiaeth inni'n dod Wrth destament ein Tad. Am hynny, blant, na fyddwn drist, Yn hytrach llawenhawn: Cydetifeddion ŷm â Christ, Rhan o'i ogoniant cawn.Dafydd Jones 1711-77
Tonau: gwelir: Mae brodyr i mi aeth y(')mlaen Plant ydym eto dan ein hoed |
Our names are written above In the great book of life; Satan and all his host cannot From there pull us down. Though poor we are now, Though base is our countenance, There is a great inheritance for us On the far side of the grave. Children are we still under our age, Waiting for our state; The great inheritance is coming to us According to our Father's testament. Therefore, children, let us not be sad, Rather let us rejoice: Joint-heirs are we with Christ, Part of his glory we shall get.tr. 2009 Richard B Gillion |
We are but children under age, With patience waiting still For that eternal heritage, Giv'n in our Father's will.tr. <1897 William Edwards 1848-1929
|