Mae'n Sïon ryw dorf o gantorion, Yn canu mor gyson i gyd, Gan seinio pêr-felus pur foliant, 'Ogoniant i Brynwr y byd; Dymuno 'rwyf finau gael dyfod I blith y llu hynod llawn hedd, Tra byddo'r corph egwan ei agwedd, Yn gorwedd yn ngharchar y bedd. Caersalem uwch sêr a breswyliant, Pan yr adgyfodant yn fyw, I gwrddyd a'n henaid mewn eilfyd, Yn llewyrch wyneb-pryd eu Duw; Fe welir yr Oen a'i dyweddi, Yn dorf ddirifedi o fawr; Pan fydd yr annuwiol mewn gwaeau, Bydd Sïon yn llawen uwch llawr.Morris Davies, Penygarnedd. Llyfr Emynau 1837 [Mesur: 9898D] |
There is in Zion some throng of singers, All singing so constantly, Sounding very sweetly pure praises, His glory to the Redeemer of the world; I too wish to get to come Amongst the notable host full of peace, While the body of weak condition is Lying in the prison of the grave. Jerusalem above the stars they inhabit, When they arise again alive, To meet with our souls in another world, In the radiance of the countenance of their God; The Lamb shall be seen with his betrothed, As a throng innumerably large; When the ungodly shall be in woes, Zion shall be joyful above the earthtr. 2023 Richard B Gillion |
|