Mae ofnau er eu grym, Yn methu gwneuthur dim 'N awr yn y nef; Mae perffaith gariad pur O fewn i' nefol dir Yn gwel'd yn oleu clir, Ei ogoniant Ef. O nefol hyfryd wlad! Gartrefle bur fy Nhad, Ffynon o hedd! Mae fy ysbryd yn llesgau, Tan gystudd a phob trai, A hiraeth am fwynhau 'Th dragwyddol wledd. Mae pechod o bob rhyw Yn mron a'm curo i'n fyw O tan fy maich, O Arglwydd, nertha'm traed, Ti yw fy Nuw a'm Tad, Ac arwain fi i'r wlad, Ā nerth dy fraich. Mae tonau'r moroedd mawr Yn nghuro i'n lān i lawr, I'r dwfn dir; O Iesu, rho dy law, A dwg fi maes o law, I landio'r ochr draw, I'r hafan bur.William Williams 1717-91 Ffarwel Weledig [Mesur: 664.6664] |
Fears, despite their force, are Failing to do anything Now in heaven; Perfect, pure love, is Within the heavenly land Seeing in clear light, His glory. O delightful, heavenly land! The pure dwelling-place of my Father, The fount of peace! My spirit is growing feeble, Under affliction and every ebbing, And longing to enjoy Thy eternal feast. Sin of every kind is Almost beating me alive Under my burden, O Lord, strengthen my feet, Thou art my God and my Father, And lead me to the land, With the strength of thy arm. The waves of the great seas are Completely beating me down, To the deep ground; O Jesus, give thy hand, And brind me out soon, To land on yonder side, To the pure haven.tr. 2024 Richard B Gillion |
|