Mae pob pleserau is y rhod

(Gras, y Trysor Gorau.)
Mae pob pleserau is y rhod
  Yn darfod maes o law;
'R wyf innau'n brysio yn ddi-oed
  I'r byd sy'r ochor draw.

Pe bawn yn meddu aur Periw
  A pherlau'r India bell,
Gwreichionen fach o ras fy Nuw
  Sydd drysor
      canmil gwell.

Gwell gennyf na
    phleserau'r byd
  Un funud o fwynhau
Gwedd Iesu hardd,
    a rydd o hyd
  wir fywyd i barhau.

Dymunwn roi ffarwél yn lân
  I holl deganau'r llawr,
A 'mroi trwy ras i fynd ymlaen
  Ar ôl fy Mhrynwr mawr.
William Lewis ?-1794
Galar a Gorfoledd y Saint 1788

Tonau [CM 8686]:
Abbey (1615 Sallwyr Ysgotaidd)
Milwaukee (Daniel Protheroe 1866-1934)

gwelir:
  Mae ngolwg ar a wlad
  Pob pleser is y rhod
  Pe meddwn aur Periw

(Grace, the Best Treasure.)
All the pleasures below the sky are
  Passing away presently;
As for me, I am hurrying without delay
  To the life which is on the far side.

If I were to posses the gold of Peru
  And the pearls of distant India,
Little sparks of my God's grace
  Are a treasure a hundred
      thousand times better.

Preferable to me than
    the pleasures of the world
  One minute of enjoying
The beautiful countenance of Jesus,
    which will still bestow
  True life to endure.

I would desire to bid farewell completely
  To all the fair things of below,
And give me through grace to go on
  After my great Redeemer.
tr. 2008 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~