Mae'r coedydd yn tawelu A'r adar yn distewi, Â pawb i'w nyth ei hun. Fe allaf innau gysgu Yn dawel yn fy ngwely - Mae'r Iesu'n aros ar ddi-hun. Efe yw'r Ffrind sy'n cofio Pob plentyn bychan heno, A minnau yn eu plith. Er maint ei deyrnas nefol A'i allu mawr tragwyddol, Mae'n cofio'r 'deryn yn ei nyth. O! clyw fy ngweddi, Iesu, Yn awr, a'r nos yn nesu - Dy blentyn bach wyf fi: A gad i mi ymuno Â'r teulu mawr sy'n huno Yn hyfryd yn dy freichiau di.efel. (o'r Almaeneg} Ifor Leslie Evans 1897-1952 Tôn [776.778]: Innsbruck (H Isaac / J S Bach) |
The woods are quietening And the birds falling silent, Everyone goes to his own nest. I too may sleep Quietly in my bed - Jesus is staying unsleeping. He is the Friend who remembers Every small child tonight, And I too am among them. Despite the size of his heavenly kingdom And his great eternal power, He remembers the bird in its nest. O hear my prayer, Jesus, Now, and the night approaching - Thy little child am I: And let me join With the great family that sleeps Delightfully in thy arms.tr. 2023 Richard B Gillion |
?
|