Mae'r dull y byd a'r ddaear lawr

  Mae'r dull y byd
        a'r ddaear lawr
    O awr i awr yn passio,
  Mae yma lu am gael fy lle,
    Af adre' i breswylio,
  Gyd ā'r dorf s' a'u gynau gwynion
  Fry yn Seion mae fy nghalon,
  Y rhai a ddarfu lān orchfygu,
  Trwy waed a gair
        tystiolaeth Iesu,
Sy'n awr yr ochor draw i'r bedd
  I Frenin hedd yn canu.
  Fy enaid sydd o'r un egwyddor
  A'r eneidiau tan yr allor,
  Am amser yn hiraethu,
  Cānt eu llwch o'r
        ddae'r i fynu,
Mae ngwaredigaeth fawr yn d'od,
  I ganu clod heb dewi.

  Mae'm cnawd a'm hesgyrn bob yr awr
    I lwch y llawr yn tynnu,
  'Rwy'n disgwyl beunydd am yr wys
    I fyn'd ar frys i fynu;
  Trwy law angeu
        o flaen brawdle
  Iesu Mrenin mawr a'm Twrne,
  Sydd fry yn dadleu droswyf heddy',
  Yn rhad mewn gwaed
        fod pardwn imi.
I drag'wyddoldeb ger ei fron,
  Cei f'enaid
        llon deyrnasu:
  Nid oes fawr hyfrydwch i mi
  Ar y ddaear gron wyf arni;
  Yn y wlad uchod, nad oes pechod,
  Mae fy nghalon gyd ā'm Priod;
O groesaw angeu, moes dy law,
  Fe ddarfu braw dy ddyrnod.

  Uch'neidio'n llwythog 'rwyf o hyd,
    Am wel'd y pryd yn dyfod,
  A'm brodyr ca'n yr awyr gwrdd,
    O brysia'r hardd gyfarfod!
  Beth sydd yma i gael ond poendod,
  Chwerw nychdod o waith pechod,
  Y cwbl tan yr haul a wela',
  Im' sy'n chwerw fel dw'r Mara;
Ond hyn sydd dda,
      mi af o'm pla,
  I ganu haleluia:
  Gwynfyd a wela'i
      y boreu-ddydd
  Na ddaw cwmmwl yn dragywydd
  Rhyngwyf a fy Mhriod hyfryd,
  Gwel'd ei wyneb yw fy iechyd;
Gwynfyd f'ai ar ei ddeheu-law
  Yn canu draw'n y bywyd.
Morgan Rhys 1716-79
Golwg o Ben Nebo 1764

[Mesur: 8787.8888.87.8888.87]

  The manner of the world
        and the earth below is
    From hour to hour passing,
  Here is a host wanting to take my place,
    I shall go home to dwell,
  With the throng who have white robes
  Up in Zion is my heart,
  Those who found complete victory,
  Through the blood and word
        of the testimony of Jesus,
Who are now on the far side of the grave
  To the King of peace singing.
  My soul is of the same principle
  As the souls under the altar,
  For the time longing,
  When they get their dust
        up from the earth,
The great deliverance is coming,
  To sing praise without falling silent.

  My flesh and my bones every hour
    To the dust of the ground are drawing,
  I am expecting daily for the summons
    To come up quickly;
  Through the hand of death
        before the judgment-seat
  Jesus my great King and my Advocate,
  Who is above arguing for me today,
  Freely in blood that
        there is a pardon for me.
For an eternity in his presence,
  Thou shalt get, my soul,
        cheerfully to reign:
  There is no great delight for me
  On the round earth on which I am;
  In the land above, there is no sin,
  Is my heart together with my Spouse;
O welcome death, place thy hand,
  The terror of thy grasp shall vanish.

  Groaning burdened I am always,
    To see the time coming,
  And my brothers I may meet in the air,
    O hasten the beautiful meeting!
  What is here to get but torment,
  Bitter languor from the work of sin,
  All that under the sun I see,
  To me is bitter like the water of Marah;
But this is good,
      I shall go from my plague,
  To sing hallelujah:
  Blessedness I shall see
        in the morn of day
  No cloud shall come eternally
  Between me and my delightful Spouse,
  To see his face is my health;
Blessedness it would be at his right-hand
  Singing yonder in the life.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~