Mae'r hâf heb fyn'd drosodd

(Dydd iechydwriaeth)
Mae'r hâf heb fyn'd drosodd,
    nid an'odd cael Duw;
Cynhauaf heb ddarfod:
    rhyfeddod! 'rwyn fyw!
  A sain yr Efengyl
      yn f'ymyl mor fwyn,
  Yn d'wedyd am Feddyg,
      o'm dirmyg, i'm dwyn.

Er maint fy afiechyd,
    fy ngh'led-fyd a 'nghlwyf,
Tu yma i'r gagendor
    yw'r ochr yr wyf:
  Mae gobaith am danaf
      tra byddaf fi byw,
  Yn nghyredd Efengyl
      fwyn anwyl fy Nuw.

Er cymmaint fy nh'w'llwch,
    fy ngh'ledwch, a nghlwyf,
Mewn chwîth d'w'llwch eitha'
    byd yma nid wyf;
  Ond lle mae môdd dyfod
      i wybod am wawr,
  A'r c'ledwch ei symud,
      o f'ysbryd, sy'n fawr.

Gwell dyoddef ychydig
    i Feddyg mor fawr,
Na marw cyn dyfod
    i wybod am wawr:
  Gall attal o'r diwedd,
      trwy rinwedd ei râs,
  Holl ffrwd fy niferlif,
      sy'n genllif mor gâs.

Wrth glywed sŵn Sina,
    mae'r grynfa mewn grym,
Y mellt a'r taranau
    â'u lleisiau mor llym,
  Nes clywed am Iesu
      Yn llyncu'r holl lîd,
  Pan yfodd ei hunan
      y gwpan i gyd.

Mae'r gyfraith yn tewi
    â gweiddi am ein gwaed;
Gwaed Iesu rhinweddol,
    digonol, a gaed.
  Mae'r ddeddf yn awr beunydd,
      yn llonydd ei llîd,
  A'i hên lyfrau duon
      Yn gochion i gyd.

Bydd rhyfedd fy ngweled
    mor wỳned â'r wawr,
Pan gaffwyf fy nghorphyn,
    bob llwchyn, o'r llawr,
  A'm henaid ail ddyfod
      i gydfod âg ef,
  A hedfan i burdeb,
      mewn undeb, i'r nêf.
Edward Jones 1761-1836
Hymnau ar Amryw Destynau ac Achosion 1820

[Mesur: 11.11.11.11]

(The day of salvation)
The summer has not gone past,
    it is not hard to get God;
Harvest not finished:
    a wonder! I am alive!
  And the sound of the gospel
      beside me so gentle,
  Telling about a Physician,
      from my contempt, to lead me.

Despite my disease,
    my adversity and my wound,
This side of the chasm
    is the side I am on:
  There is hope for me
      while ever I live,
  In the reach of the dear, gentle
      gospel of my God.

Despite the extent of my darkness,
    my hardness, and my wound,
In the extreme awkward darkness
    of this world I am not;
  But where there is a means of coming
      to know about a dawn,
  And the moving of the hardness
      from my spirit, which is great.

Better to suffer a little
    for a Physician so great,
Than die before coming
    to know about a dawn:
  At last through the merit of his grace,
      all the stream
  Of my haemorrhage, which is a torrent
      so detestable, may stop.

On hearing the sound of Sinai,
    the earthquake is in force,
The lightning and the thunder
    and their voices so sharp,
  Until hearing about Jesus
      Swallowing the whole wrath,
  When he himself drank
      All the cup.

The law is silent
    from shouting for our blood;
The virtuos, sufficient blood
    of Jesus was got.
  The law is now daily,
      calm from its wrath,
  And its old black books
      all red.

It shall be wonderful to see me
    as white as the dawn,
When I get my body,
    every speck of dust, from the ground,
  And my soul to come again
      to co-exist with him,
  And fly to purity,
      in unity, to heaven.
tr. 2021 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~