Mae'r Iesu yn y nef, Ar ei orsedd wen; O! canwn iddo Ef A'i goroni'n Ben. O! deuwch oll ynghyd, Canmolwn Ef o hyd, Moliant iddo Ef Lanwo'r byd a'r nef. Daeth Iesu i lawr o'r nef, Daeth i ni yn Frawd: Ym mhreseb Bethlem dref Gwelwyd Iesu'n dlawd. Cytgan Bu'r Iesu dan ei loes Gynt ar Galfari; Dioddefodd angau'r groes Er ein hachub ni. Cytgan Bu'r Iesu'n wael ei wedd Yn y ddaear ddu: Ond daeth i'r lan o'r bedd Ac esgynnodd fry. Cytgan Mae'r Iesu yn y nef Ar ei orsedd wen: O! canwn iddo Ef A'i goroni'n Ben.Robert Beynon 1881-1953 Tôn [6565]: Mae'r Iesu Yn Y Nef (alaw Ellmynig) |
Jesus is in heaven, On his white throne; O let us sing unto him And crown him as Head! O let us all come together! Let us extol him always, May praise unto him Fill the world and heaven. Jesus came down from heaven, He came to us as a Brother: In the manger of the town of Bethlehem Jesus was seen poor. Chorus Jesus was in anguish Once on Calvary; He suffered the death of the cross In order to save us. Chorus Jesus was in a poor condition In the black earth: But he came up from the grave And ascended above. Chorus Jesus is in heaven, On his white throne; O let us sing unto him And crown him as Head!tr. 2024 Richard B Gillion |
|