Mae'r manna wedi ei gael Mewn dyrys anial dir; Ymborthi gaf, ond myn'd yn mlaen, Ar ffrwythau'r Ganaan bur; Mae yno sypiau grawn Yn llawn o fewn i'r lle: - O Ffrynd troseddwyr! moes dy law, A thyn fi draw i dre'! Wrth feddwl am y wlad A ragbar'toed i'r plant, A chyflawn degwch tŷ fy Nhad, Mae ar fy nghalon chwant I lanio uwch y nen, Tu draw'r Iorddonen gre': - O Ffrynd troseddwyr! moes dy law, A thyn fi draw i dre'! 'Rwy'n gweled, trwy fy Nuw, Y concraf fyd a chnawd; O dan ei aden gwnaf fy nyth, Ni fyddaf byth yn dlawd; Mae'm hetifeddiaeth wych O fewn i entrych ne'; O Ffrynd troseddwyr! moes dy law, A thyn fi draw i dre'!William Williams 1717-91
Tonau [MBD 6686D]: gwelir: Chwi Bererinion glân Daeth bore i'r adar mân |
The manna has been got In a troublesome desert land; Feed I may, but I will go on, Over to the fruits of pure Canaan; Clusters of grapes are there Full within the place; O Friend of transgressors, give thy hand, And draw me yonder to home! While thinking about the land Prepared for the children, And the complete fairness of my Father's house, My heart has a desire To land above the sky, Beyond the strong Jordan; O Friend of transgressors, give thy hand, And draw me yonder to home! I can see, through my Father, I will conquer a world and flesh; Under his wings I will make my nest, I will never be poor; My brilliant inheritance is Within the vault of heaven; O Friend of transgressors, give thy hand, And draw me yonder to home!tr 2014 Richard B Gillion |
|