Mae'r nos yn oer a du A rhua'r gwynt drwy'r Tŷ, Lle ceir ar lawr, a'i lygaid mawr, Y Maban bychan cu: Medd rhai a fu, â'i gledd a'i lu Dôi Un i'n rhoi yn rhydd; Mae'r nos yn ddu, oer ydyw'r Tŷ, Ac mae'r gwynt yn rhuo'n brudd. Mae'r du gysgodion mawr Yn ffoi rhag tonnog wawr, A'r gwynt y daw, a chân a ddaw O'r nef ddi-sêr i lawr; Ond bod uwchben un seren wen Drwy'r canu'n nofio'r nef: A'r nos yn ffy, claer ydyw'r Tŷ, Ac mae'r gân fel lwlian lef. Mae'r nos yn oer a du, Ond hedd a leinw'r Tŷ; A'r seren wen o hyd uwchben, A'r gân fel gynt y bu; Nid Un a ddaeth â'i gledd a'i saeth I wared teulu dyn: Boed nos yn ddu, claer ydyw'r Tŷ, A'u rhyddhad yw'r Addfwyn Un.T Gwynn Jones 1871-1949
Tôn [6686.8686]: Mae'r Nos yn Oer a Du |
The night is cold and black And the wind roars through the House, Where here below is found, with his big eyes, The dear little Boy: Some once said, "With his sword and his host, One shall come to set us free": The night is black, cold is the House, And the wind is roaring sadly. The great black shadows are Fleeing from the billowing dawn, And the wind comes, and a song comes Down from a starless heaven; But there is overhead one bright star, Through the singing, sailing the sky: And the night flees, clear is the House, And the song is like a lulling voice. The night is cold and black, But peace is what fills the House; And the bright star still overhead, And the song like once there was; One did not come with his sword and his arrow To deliver the family of man: Let the night be black, clear is the House, And their liberation is the Gentle One.tr. 2023 Richard B Gillion |
|