Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau, Yn yr iachawdwriaeth rad, Hon yw'r afon fawr a lifodd, O dan riniog tŷ fy Nhad; Yn ei ffrydiau dwg fi adre', Gyd â'r dyrfa hardd ei gwedd, Minnau ganaf am ei rhinwedd, Byth yr ochr draw i'r bedd. Bydd angylion yn rhyfeddu Draw i oesoedd rif y dail, Gweled myrdd o bechaduriaid Yn dysgleirio fel yr haul; Wedi d'od o wlad y cystudd, Wedi gadael byd o boen, Ac yn gwisgo'r gynau gwynion Wedi'u cànu yn ngwaed yr Oen. Nid oes neb o'r hardd gyfeillion, Yno yn teimlo cur na phoen; Trowd eu galar yn ganiadau Am gystuddiau'r addfwyn Oen. Rhyfedd byth os gwelir finau Gyda'r dyrfa lon ei gwedd, Yn cael edrych a rhyfeddu Yr anfeidrol gynghor hedd! Griffith Ellis, Brithdir. Tôn [8787D]: Mount of Olives (L v Beethoven / W L Viner) |
There are some thousands of wonders, In the gracious salvation, This is the great river that flowed, From under the threshold of my Father's house; In its streams it will bring my home, With the throng of a beautiful countenance, I too shall sing about his merit, Forever on yonder side of the grave. Angels shall be wondering Yonder for ages numerous as the foliage, Let a myriad of sinners be seen Shining like the sun; Having come from the land of tribulation, Having left a world of pain, And wearing the white robes Bleached in the blood of the Lamb. There is none of the beautiful friends, There feeling wound or pain; The lamentation was turned into songs About the dear Lamb's tribulations. A wonder forever is I am to be seen With the throng of a cheerful countenance, Getting to look and wonder at The immeasurable counsel of peace! tr. 2022 Richard B Gillion |
|