Mae Salem heb ei llanw

(Ac etto y mae lle - Luc xiv, 22.)
Mae Salem heb ei llanw,
  Rhaid cael y llwythau'n nghyd,
Pob rhyw ac iaith o bobl
  O bedwar gwynt y byd;
Daw tlodion, ac efryddion,
  A gwywedigion gwan,
Finteioedd heb eu rhifo,
  I Seion yn y man.       [WW]

O! Arglwydd, galw eto
  Fyrddiynau ar dy ôl,
A dryllia'r holl gadwynau
  Sy'n dal eneidiau'n ôl,
A galw hwynt o'r dwyrain,
  Gorllewin, gogledd, de,
I'th eglwys yn ddiatal -
  Mae digon eto o le.     [DJ]

O'r nef mi glywais newydd
  Fe'm cododd ar fy nhraed
Fod ffynnon wedi ei hagor
  I gleifion gael iachâd;
Fy enaid, rhed yn ebrwydd,
  A phaid â llwfwrhau,
O'th flaen mae drws agored
  Na ddichon neb ei gau.  [DW]

             - - - - -

Mae Salem heb ei llanw
  Mae'n rhaid cael llwythau 'nghyd,
Pob rhyw iaith a phobl
  O bedwar gwynt y byd;
Daw tlodion, ac efryddion,
  A gwywedigion gwan,
Yn fint'oedd heb rifedi,
  I Sïon yn y mân.        [WW]

O enau plant disylwedd
  Na feddant rwysg na rhod,
Mewn 'chydig iawn o amser,
  Perffeithia Duw ei glod;
Ei enw gaiff ogoniant,
  Mawr fydd ei deyrnas e,
O'r dwyrain i'r gorllewin,
  O'r gogledd hyd y de.   [WW]
WW: William Williams 1717-91
DJ: Dafydd Jones 1711-77
DW: Dafydd William 1720-94

Tonau [7676D]:
Bala (R H Prichard 1811-87)
Culmstock (<1825)
Grange Road (<1845)
Pentraeth (<1845)

gwelir:
  Ni welwn ben ein siwrnai
  O Arglwydd galw eto
  O'r nef mi glywais newydd

(And still there is room - Luke 14:22)
Jerusalem is not yet filled,
  The tribes must be got together,
Every kind of language of people
  From the four winds of the world;
Poor ones shall come, and lame ones,
  And weak withered ones,
Cohorts unnumbered,
  To Zion soon.

O Lord, call again
  Myriads after thee,
And smash all the chains
  Which are holding souls back,
And call them from the east,
  West, north, south,
To thy church without delay -
  There is still room.

From heaven I heard news,
  It raised me to my feet,
That a fount had been opened
  For sick ones to get healed;
My soul, run quickly,
  And do not be discouraged,
Before thee is an open door
  That no-one is able to close.

                - - - - -

Jerusalem is not yet filled
  The tribes must be got together,
From every kind of language and people,
  From the four winds of the world;
The poor ones shall come, and lame ones,
  And withered weak ones,
In cohorts without number
  To Zion soon.

From the mouths of disregarded children
  Possessing neither power nor influence,
In very little time,
  God shall perfect their praise;
His name shall get glory,
  Great shall be his kingdom,
From the east to the west,
  From the north as far as the south.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~