Mae T'wysog tangnefedd am ledu

(Llwyddiant yr Efengyl)
Mae T'wysog tangnefedd am ledu
  Terfynau llywodraeth
      ei ras;
Mae'n gwisgo ei gleddyf dau finiog,
  Mae'n galw ei filwyr i'r maes:
Galluoedd y tywyllwch sy'n crynu,
  Mae miloedd yn plygu i'r ffydd;
Mae diafol yn colli ei ddeiliaid,
  Caffaeliaid sy'n dyfod yn rhydd.

Mae arfau'r Efengyl yn llwyddo,
  Mae'r cestyll yn syrthio i'r llawr:
Tywyllwch y nos sydd yn cilio,
  Myn'd rhagddi yn gyflym mae'r wawr:
Ar bur weinidogaeth y cymmod,
  Trwy ddwyfol awdurdod
      mae llwydd,
Mae'r bobloedd yn taflu'r eulunod
  I'r waedd a'r ystlymod yn rhwydd.
I'r waedd :: I'r wâdd

George Lewis 1763-1822

Tôn [9898D]: Bethel (alaw Gymreig)

(The Success of the Gospel)
The Prince of peace is about to extend
  The boundaries of the government
      of his grace;
He is wearing his two-edged sword,
  He is calling his soldiers to the field:
The powers of darkness are trembling,
  Thousands are bowing to the faith;
The devil is losing his adherents,
  Captives are coming free.

The weapons of the Gospel are succeeding,
  The castles are falling down:
The darkness of night is retreating,
  The dawn is going forward:
On the pure ministry of reconciliation,
  Through divine authority
      there is success,
The peoples are casting their images
  To the moles and the bats readily.
::

tr. 2020 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~