Mawr iawn fu'r gorfoledd pan gododd ein Ner, Fe chwarddodd yr haulwen, fe ddawnsiodd y ser; Fe neidiodd mynyddau a bryniau fel wyn, Gorfoledd i'r Iesu gyfodi er ein mwyn. Y gwragedd godasant i edrych y bedd, I wel'd a gyfododd eu Harglwydd mewn hedd; Wrth edrych, ofnasant, nid oeddynt ond gwàn, Ni welsant eu Harglwydd, ond gwelsant y fàn. Fe grynodd y ceidwaid, cwympasant i lawr, P'odd gall'sent hwy edrych dysgleirdeb mor fawr. Y weithred oedd ynfyd, rhoi'i dynion mor wàn I rwystro Creawdwr y ddaear i'r làn. Wel, saint, gorfoleddwch, fe gafodd y dydd, Fe rwymwyd ei ddyndod, rho'i Dduwdod E'n rhydd: Mae'i saint ef yn dystion, gwirionedd mawr yw, I'n Harglwydd adgodi o farw yn fyw. Cawn ninnau adgodi ar doriad y dydd, Lladd ceidwad y carchar a'n gollwng yn rhydd; A'n cym'ryd i fynu o'r ddaear i'r ne', Yn ngolwg angylion, fel cafodd efe.William Williams 1717-91 [Mesur: 11.11.11.11] |
Very great was the rejoicing when our Master arose, The sun laughed, the stars danced; The mountains and hills leapt like lambs, Rejoicing that Jesus arose for our sake. The women arose to look at the grave, To see whether their Lord had arisen in peace; On looking, they feared, they were only weak, They did not seek their Lord, but they saw the place. The guards trembled, they fell down, However could they look upon radiance so great? The action was foolish, to set men so weak To prevent the Creator of the earth rising up. Now, saints, rejoice, he gained the day, His humanity was bound, his Divinity see him free: His saints are witnesses, great is the truth, That our Lord rose again from death alive. We too may rise again at the break of day, The Saviour slew the prison and set us free; And will take us up from the earth to heaven, In the sight of angels as he himself was.tr. 2022 Richard B Gillion |
|