Melys ydyw gweled Canaan

(Y Wlad Well)
Melys ydyw gweled Canaan
  O'r anialwch dyrys, maith -
Melys cael, yn chwys yr yrfa,
  Ambell drem ar ben y daith;
    Trwy'r olygfa,
  Nertha Duw fy enaid blin.

Dacw'r wlad -
    gwlad ffydd a gobaith,
  Gwlad fy hiraeth, gwlad sydd well;
Dacw dir fy etifeddiaeth -
  Agos, er ei fod ymhell:
    Dacw'r Brenin,
  Tecach yw na'r nef i gyd.

Mae cael trem ar hen gyfeillion
  Yn eu gynau gwynion glân,
Yn fy llonni yn yr anial
  Ac yn troi fy nghwyn yn gân:
    Ond gweld Iesu,
  O! fy enaid, nefoedd yw.

Arglwydd, arwain fi yn dadol,
  Tua'r nefol drigfan draw;
Gan fod ynof duedd crwydro,
  Paid â'm golwng fyth o'th law:
    Ar ôl cyrraedd,
  Canmol fydd fy ngwaith am byth.
Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn) 1836-93

Tôn [878747]: Rhondda (Moses O Jones 1842-1908)

(The Better Land)
Sweet it is to see Canaan
  From the vast, troublesome desert -
Sweet to get, in the sweat of the course,
  An occasional glimpse of the destination
    Through the vision,
  Strengthen, O God, my weary soul.

Yonder is the land -
    the land of faith and hope,
  The land of my longing, a better land;
Yonder is the land of my inheritance -
  Near, although it is far away:
    Yonder is the King,
  Fairer is he than all heaven.

Getting a glimpse of old companions
  In their clean, white robes,
Is cheering me in the desert
  And turning my complaint into song:
      Only to see Jesus,
  O, my soul, it is heaven!

Lord, lead me like a father,
  Towards the heavenly dwelling yonder;
Since there is in me a tendency to wander,
  Never let me loose from thy hand:
    After arriving,
  Praise shall be my work forever.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~