Mewn gostyngeiddrwydd pur

(Ymborthi ar yr Aberth)
  Mewn gostyngeiddrwydd pur
    Dymunem oll nesâu,
  I gofio'r Oen a'i gur,
    A'r cariad sy'n parhâu:
Adgofio'r ydym yma'n awr
Am ddrylliad corff ein Harglwydd mawr.

  Ymborthwn oll drwy ffydd
    Ar haeddíant Iesu mawr;
  Mae arlwyadau gras
    Mewn newydd flas yn awr:
Dyrchafwn byth ein dwyfol Ben;
Mae ganddo hawl i'n mawl - Amen.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [666688]: Bryniau Canaan (alaw Gymreig)

gwelir:
  Danteithion breision sydd
  Rhyw noswaith yn yr ardd

(Feeding on the Sacrifice)
  In pure humility
    We would all wish to draw near,
  To remember the Lamb and his wounding,
    And the love that endures:
Remembering again are we now
The breaking of the body of our great Lord.

  Let us all feed through faith
    On the merit of great Jesus;
  The provisions of grace are
    In a new taste now:
Let us exalt forever our divine Head;
He has a right to our praise - Amen.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~