Mi âf trwy'r Iorddonen arw, Anturiaf wrthwynebu'r don - Pob temtasiwn gaffo'm nwydau Gan wrthddrychau'r ddaear hon, Ond it sefyll wrth fy ochr, Ond it 'maflyd yn fy llaw; Ti gei'r clod, ti gei'r gogoniant, Oll yn oll yr ochr draw. Na'd y cenllysg i fy nghuro - Grym fy mhleser, a fy chwant, Ac i yru d'Ysbryd sanctaidd, A'i awelon pûr i bant: Gwna 'nghydwybod ynwy'n danllwyth, Na ddioddefwyf ddim o'r bai, Ag sy'n gwneuthur oriau 'mywyd Fel rhyw oes o edifarhau. 'Rwy'n hiraethu am yr oriau Pan y caffwy'n nhraed yn rhydd; Dyna jubil fy nghysuron - Dyna ngwaredigol ddydd; Dyna wledd 'rwy'n brefu am dani, Pan na byddo pechod mwy I ladrata'r meddwl lleiaf, Nac i roddi i mi glwy'. Tyred, Ysbryd sancteiddiolaf, A glanhâ dy dŷ dy hun, Lladd y beiau yn fy natur O'r boreuddydd sydd ynglỳn; Dwg dy eiddo i maes o'r pydew, Minnau, ond cael myn'd yn rhydd, A'th foliannaf tra fo anadl Am fy ngwaredigol ddydd.1-3: William Williams 1717-91 4 : Arthur Evans 1755-1837
Tonau [8787D]: gwelir: Dyred Ysbryd sancteiddiolaf N'âd y cenllysg i fy nghuro |
I will go through the rough Jordan, I will venture withstanding the wave - Every temptation which my lusts have From the objects of this earth, Only stand thou by my side, Only seize thou my hand; Thou will get the praise, thou wilt get the glory, All in all on the far side. Do not let the hailstones strike me - The force of my pleasure, and my desire, Or drive thy holy Spirit, And his pure breezes away: Make my conscience within me a conflagration, I shall not suffer any of the fault, Which is making the hours of my life Like some age of regret. I am longing for the hours When I may get my feet free; That is the jubilee of my comforts - That is my deliverance day; That is the feast I am bleating for, When there will be no more sin To steal the least thought, Nor to give me a wound. Come, holiest Spirit, And cleanse thou thy own house, Kill the sins in my nature From the dawn of day to which it belongs; Draw thine own out of the pit, I myself, if I but get to go free, Shall praise thee as long as there is breath For my deliverance day.tr. 2015 Richard B Gillion |
|