Mi debygwn drwy'r cymylau
Mi debygwn gwelai'r bore
Mi dybygwn gwelai'r bore

(Ymdrech ffydd, a dedwydd fuddugoliaeth.)
1,2,3,4,(5,6).
Mi dybygwn gwelai'r bore,
  Haul yn codi oddi draw,
Iachawdwriaeth rad yn nesu,
  Hedd a phardwn yn ei llaw;
Y mae'r wawr, hyfryd awr,
Am ddisgleirio ar lwch y llawr.

Minnau ar y mur ddisgwyliaf,
  Gwn nad oeda ei sanctaidd droed;
Ni w'radwyddwyd is y nefoedd,
  A ddisgwyliodd wrtho erioed;
Doed y dydd, Amen yn brudd,
I'm henaid egwan fyn'd yn rhydd.

Fel y gallwyf orfoleddu,
  Byw yn wastad yn dy hedd,
Edrych angeu yn ei wyneb,
  Ymhyfrydu yn y hedd:
Myn'd yn rhydd, ddedwydd ddydd,
Mi wela'r bore clir trwy ffydd.

Mi gaf fod o flaen yr orsedd,
  Yn canu'r anthem hyfryd hur;
Pan ddarfyddo son am ddaear,
  Son am foroedd, son am dir:
Dwyfol loes, angau'r groes,
Fydd y canu ddydd a nos.

Aros Iesu yn y rhyfel,
  F'enaid yn lluddiedig sydd;
Ti biau d'rysu fy ngelynion,
  Ti biau'r enw,
      ti biau'r dydd:
Yn dy ddawn, unig cawn,
Fuddugoliaeth werthfawr iawn.

Minau gerddaf trwy'r byddinoedd,
  Ond it' gerdded o fy mlaen;
Mae dy gamrau'n tori'r tònau,
  Mae dy gamran'n diffodd tân;
'N ol dy droed, gwna i mi dd'od,
Fy hyfrydwch mwya' erioed.

- - - - -
(Dysgwyliad y Cristion)
1,(2,3),4.
Mi debygwn gwelai'r bore,
  Haul yn codi oddi draw,
Iachawdwriaeth rad yn nesu,
  Hedd a phardwn yn ei llaw;
Y mae'r wawr, hyfryd awr,
Bron a thori maes yn awr.

Minnau ar y mur ddysgwyliaf,
  Gwn nad oeda dim o'i droed,
Ni w'radwyddwyd îs y nefoedd,
  A ddysgwyliodd wrtho erioed;
Pan ddel dydd, mi a'n rhydd,
O'r hyn yn fy mhoeni sydd.

O na welwn gopa'r bryniau,
  Lle mae fy anwyl i yn byw,
'Rwyf yn caru'r gwynt sy'n hedeg,
  Tros fy Nghanaan hyfryd wiw;
'Fedd y llawr, ddim yn awr,
Lleinw le fy Arglwydd mawr.

Dere bellach, dere yn ebrwydd,
  Ac anadla'r gwyntoedd cry'
Sydd yn nerthu'r pererinion,
  I wynebu g'lynion hy;
Yn gwneud gry, Satan lym,
Mewn mynydyn fyn'd yn ddim.

- - - - -
(Cysur yn yr anial)
Mi debygwn drwy'r cymylau,
  Gwelai'r Haul yn codi draw;
Iechydwriaeth rad sy'n nesu,
  Hedd a phardwn sy'n ei llaw:
Y mae'r wawr, hyfryd awr,
Yn dysgleirio ar y llawr.

Af yn mlaen, a doed a ddelo,
  Tra bo hyfryd eiriau'r nef
Yn cyhoeddi iechydwriaeth
  Drwy ei waed a'i angeu ef:
Nid yw grym gelyn llym,
At ei ras anfeidrol ddim.
William Williams 1717-91

Tonau [8787337]:
Dretzel (Kornelius H Dretzel 1697-1775)
Groeswen (John Ambrose Lloyd 1815-74)

gwelir:
  Af ym mlaen a doed a ddelo
  Arglwydd edrych ar bererin
  Aros Iesu yn y rhyfel
  Doed y diluw i deyrnasu
  Mae'r efengyl wen yn curo
  Tyred Arglwydd ar amseroedd
  Y mae lluoedd Pharaoh'n canlyn
  Ymneilldüwch bethau'r ddaear

(The endeavour of faith, and the happiness of victory.)
 
I imagine I see the morning,
  Sun rising from yonder,
Free salvation approaching,
  Peace and pardon in its hand;
The dawn, a delightful hour, is
Wanting to shine on the dust of the earth.

I on the wall watch,
  I know that his holy feet will not delay;
Not put to shame under heaven ever
  Was any who watched for him;
Let the day come, Amen in earnest,
For my weak soul to go free.

As I can rejoice,
  Live constantly in thy peace,
Look death in its face,
  Delight in the peace:
Go free, happy day,
I shall see the clear morning through faith.

I shall get to be before the throne,
  Singing the pure, delightful anthem;
When mention of earth passes away,
  Mention of seas, mention of land:
Divine anguish, the death of the cross,
Shall be the singing day and night.

Stay, Jesus, in the battle,
  My soul is exhausted;
It belongs to thee to confound my enemies,
  To thee belongs the name,
      to thee belongs the day:
In thy ability alone I would get
A very valuable Victory.

I shall walk through the armies,
  If only thou walk before me;
Thy steps are breaking the waves,
  Thy steps are extinguishing fire;
After thy feet, make me come,
My greatest ever delight.

- - - - -
(The Expectation of the Christian)
 
I believe I shall see the morning,
  Sun rising from yonder,
Free salvation approaching,
  Peace and pardon in its hand;
The dawn, a happy hour, is
Almost breaking out now.

I on the wall am watching,
  I know that there is no delaying of his feet,
Not put to sham under heaven was
  Any who watched for him ever;
When the day comes, I will go free,
From what is grieving me.

O that I may see the top of the hills,
  When my beloved is living,
I am loving the wind which is flying,
  Over my delightful, worthy Canaan;
Possession of the earth, shall not now,
Fill the place of my great Lord.

Come now, come quickly,
  And breathe the strong winds
Which are strengthening the pilgrims,
  To face bold enemies;
Making strong, sharp Satan,
In a minute go to nothing.

- - - - -
(Comfort in the desert)
I suppose through the clouds,
  I will see the Sun rising yonder,
Free salvation which is approaching,
  Peace and pardon which are in its hand:
The dawn, a happy hour, is
Shining on the earth.

I will go forward, come what may,
  While ever the delightful words of heaven are
Publishing salvation
  Through his blood and his death:
A strong, sharp enemy is not,
Against his infinite grace, anything.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~