Mi deithiais ran o'r anial maith

1,2,3,4a,9;  1,2,3,5,6,7,9;  1,2,(4b,8,(9));  1,2,4b,9;  1,8.
(Cynhaliaeth y Cristion ar ei daith)
Mi deithiais ran o'r anial maith,
Dwy'n deall pellder
    pen fy nhaith;
  Mewn gwledydd sychion dwfr nid oedd;
Ond dysgwyl 'r wyf yn ddyfal iawn,
O'r nefoedd ddwfr a sypiau grawn,
  Wna'm henaid egwan wrth ei fodd.

O'r graig y mae'n dylifo maes,
Yn afon ddysglaer loyw làs,
  Sef Craig yr oesoedd gadarn yw;
A dyna'r man y gwnaf fy lle,
Tan gysgod tawel
    furiau'r Ne',
  Lle caf ddiddanwch
      tra fwyf byw.

Rwy'n cofio gair fy Iesu mawr,
Y doi'r Dyddanydd atta'i lawr,
  Na chawn i farw o dristwch mwy;
O Dduw, cyflawna'th air i ben,
Rho im' Arweinydd îs y nen,
  Ddangoso'r ffordd iachäo 'nghlwy'.

Mae brodyr i mi aeth ymlaen,
Trwy ddyfnach dwr a phoethach tân,
  Ac etto gorchfygasant hwy,
Dyw'r dyfroedd aethum trwyddynt ddim,
Mewn lled a dyfnder nerth a grym,
  Paham yr ofnaf finau mwy?

[Mae brodyr i mi aeth ym mla'n
 Trwy ddyfnach dw'r a phoethach tân,
   Ac etto gorchfygasant hwy,
 Mae'r unrhyw allu i'm dal i'r lann,
 Er nad wyf fi ond llesg a gwan,
   Pa ham yr ofnai'm henaid mwy?]

Mae i mi elynion o bob gradd,
A'r lleia'n abl sydd i'm lladd,
  'Rwy'n ofni'r gelyn fo heb rym;
Cryfha fy ffydd i edrych fry,
I wel'd y lluoedd sydd o'm tu,
  Ac nad yw fy ngelynion ddim.

A raid i gystudd garw'r gro's,
I ganlyn f'yspryd ddydd a nos,
  Os rhaid, gwna fi yn foddlon iawn;
Tan ganu, gwna fi fyn'd ymla'n,
Sef canu yn y dw'r a'r tân,
  O foreu 'mywyd hyd brydnhawn.

'Rwi'n blino gan fy chwantau blin,
Gorthrymwyr oll i'm henaid yn',
  'Rwy'n disgwyl cyfan wir ryddhad;
A raid myn'd dros y ce'nfor mawr,
Cynddeiriog donnau angeu i lawr,
  Cyn gweled hyfryd
      dŷ fy Nhad.

Wel, dyred ddedwydd
    hyfryd ddydd,
Rho fy nghadwynau tyn yn rhydd,
  Gad i mi brofi'r hyfryd wlêdd:
Lladd anghrediniaeth, sydd yn awr,
Yn curo f'enaid bach i lawr,
  Ac ymaith tyn holl ofnau'r bêdd.

Yn ymchwydd yr Iorddonen gref,
Dal f'enaid afael ynddo ef,
  Mae'r tonnau'n fawrion iawn eu grym;
Af trwyddynt er
    nad wyf ond gwan,
Os deli di fy mhen i'r lann,
  Fydd tonnau mawrion i mi ddim.
dylifo maes :: dylifo yn awr
afon ddysglaer loyw làs :: afon ddysglaer loyw i lawr
A dyna'r :: A thyna'r
deli di :: cedw di

William Williams 1717-91

Tonau [888.888]:
Jenning's (<1825)
Nashville / Old 113th (Matthäus Greiter 1500-50)
St Paul's (John Goss 1800-80)

gwelir:
  A raid i groesau fyth yn llyn?
  A raid i gystudd garw'r groes?
  Mae brodyr imi aeth ymlaen (Trwy ...)
  Mae dydd at ddydd yn dod i ben
  O'r Graig y mae'n dylifo maes
  'Rwy'n cofio gair fy Iesu mawr

(The support of the Christian on his journey)
I travelled part of the vast desert,
I understand the distance
    of my destination;
  In dry lands where there was no water;
But expecting I am very earnestly,
From heaven, water and clusters of grapes,
  Which make my weak soul satisfied.

From the rock is pouring out
The shining, clear, blue river,
  That is the Rock of ages is firm;
And that is the spot I will make my place,
Under the quiet shadow
    of the walls of heaven,
  Where I may get comfort
      while I am living.

I remember the word of my great Jesus,
The Comforter shall come down to me,
  That I may not die from sadness any more;
O God, fulfil thy word,
Give me a Leader under the sky,
  Who will show the way to heal my wound.

I have brothers who have gone ahead
Through deeper water and hotter fire,
  And yet they overcame them,
The waters I have been through are nothing,
In breadth and depth, strength and force,
  Why shall I then fear any more?

[I have brothers who have gone ahead
 Through deeper water and hotter fire,
   And yet they overcame them,
 There is some power to hold me up,
 Although I am only feeble and weak,
   Why should my soul fear any more?]

I have enemies of every degree,
And the least is able to kill me,
  I fear the enemy, be he without force;
Strengthen my faith to look above,
To see the hosts that are on my side,
  And that my enemies are nothing.

Must the rough affliction of the cross
Follow my spirit day and night?
  If they must, make me very content;
Singing, make me go forward,
That is, singing in the water and the fire,
  From my life's morning until evening.

I am exhausted by exhausting lusts,
Oppressors all to my soul they are,
  I am awaiting full true freedom;
Must I go over the great ocean,
Down the furious waves of death,
  Before seeing my Father's
      delightful house?

Behold, let the happy,
    delightful hour come,
Grant that my chains pull free,
  Let me taste the delightful feast:
Slay unbelief which is now,
Beating my little soul down,
  And pull away all my fears of the grave.

In the swelling of strong Jordan,
My soul will keep hold of him,
  The waves are very great in their force;
I will go through them although
    I am only weak,
If thou wilt hold my head up,
  Large waves will be nothing to me.
pouring out :: pouring now
shining, clear blue river :: shining, clear river down
::
thou wilt hold :: thou wilt keep

tr. 2015,23 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~