Molaf dy ryfedd ras, O Dduw! I'm Ceidwad g'wiw rhof glodydd, Dug iachawdwriaeth i'r tylawd, Dyoddefodd wawd a gw'radwydd. Trwy 'i farwol friw fe'n cyfyd fry, A'i gariad cryf, awyddus; Cadwodd y ddeddf dorasom ni, Boddlonodd hi yn ddilys. Ei eiddo credu hyn a wnant, Gorphwysfa gant yn ebrwydd, Trwy angau Crist nesânt at Dduw, A byddant byw'n dragywydd. Y nefoedd fry, a'r llu uwchben, Rho'wch iddo lawen foliant, Y ddaear faith a'r môr ynghyd, Rho'wch iddo gyd-ogoniant. Ti bia Sion, Arglwydd da, A'i phyrth bendithia'r Iesu, Gras a gogoniant rhyfedd rad, Gaiff Israel had feddiannu. - - - - - Molaf dy ryfedd ras O Dad! Rhof i fy Ngheidwad glodydd, Dug iechydwriaech i rai tlawd, Aeth dan ein gwawd a'n gw'radwydd. Ei farwol boen, a'i gerddi byw A foddient Dduw yn amgen Nâ'r udgorn gynt, na'r delyn fwyn, Na gwaed yr ŵyn a'r ychen. Y saint drwy ffydd gwel'd hyn a wnânt A llawenhânt o'i herwydd; Trwy'i angeu ef nesânt at Dduw A byth cânt fyw yn ddedwydd. - - - - - Canaf dy ryfedd ras, O Dduw! Rho' i enw Ngheidwad glodydd: Dyg iechydwriaeth i rai tlawd, Aeth dan ein gwawd a'n c'wilydd. Ei ofid dwfn a'll cwyd i'r nef, Ei ufudd-dod gref awyddus: Cyflawna'r ddeddf a dorodd dyn, Cwblhaodd ei hun d' ewyllys. Ei farwol boen a'i gerddi byw, A foddiant Dduw yn amgen; Na thelyn, na sain udgorn syn, Gwaed geifr, ŵyn, neu ychen. Canlynwyr Crist, gwel'd hyn a wnant, A llawenhant o herwydd: Trwy 'i angeu ef nesânt at Dduw, A byth cânt fyw yn ddedwydd. Bydded i'r holl nefolaidd lu I Dduw dderchafu moliant; A thiroedd, moroedd, hwythau 'nghyd, Roi iddo i gyd ogoniant.Edmwnd Prys 1544-1623 [Mesur: MS 8787] |
I will praise thy wonderful grace, O God! To my worthy Saviour I will give praises, He brings salvation to the poor, He suffered scorn and shame. Through his mortal wound he lifts us us, With his strong, eager love; He kept the law we broke, He satisfied it unfailingly. His own believe this they do, A resting-place they get immediately, Through the death of Christ they approach God, And they will live eternally. Ye heavens above, and the host overhead, Give to him joyful praise, Ye vast earth and the sea together, Jointly give to him glory. To thee belongs Zion, good Lord, And her gates Jesus blesses, Wonderful, free grace and glory, The seed of Israel shall get to posses. - - - - - I will extol thy wonderful grace, O Father! I will give to my Saviour praises, He brings salvation to the poor, He went under our scorn and our shame. His mortal pain, with his living songs Which please God more Than the trumpet of old, than the gentle harp, Than the blood of the lambs and the oxen. The saints through faith see this they shall And they will rejoice because of it; Through his death they will approach God And forever they shall get to live happily. - - - - - I will sing thy wonderful grace, O God! I will give to my Saviour's name praises: He brings salvation to poor ones, He went under our scorn and our shame. His deep grieve shall raise us to heaven, His strong, eager obedience: Fulfilling the law which man broke, He himself performed thy will. His mortal pain and his living songs, Shall satisfy God more; Than harp, or trumpet's wondrous sound, The blood of goats, lambs, or oxen. The followers of Christ, see this they shall, And they shall rejoice because of it: Through his death they shall approach God, And forever they shall get to live happily. Let all the heavenly host To God lift up praise; And lands, seas, let them together, Give him all the glory.tr. 2017 Richard B Gillion |
|