Moliannwn ein Crist gogoneddus, Emmanuel gweddus i'r gwan! Disgynodd o'i wych ardderchogrwydd, A safod yn rhwydd ar ein rhan: Jehofa â'n natur ymunodd, Y Gair wnaed o'i wirfodd yn gnawd; Mawr ydyw ein henwog Waredwr - Mae Ior ini'n Brynwr a Brawd! Rhaid ydoedd cael Duwdod i'n cadw, A dyndod i farw'n ein lle; Caed Iesu i'r gwagle i lanw: Gwir Dduw a gwir ddyn yw Efe; Ein natur ddyrchafwyd i'r orsedd; Daeth rhyfedd anrhydedd i'n rhan! Ffordd rydd sydd rhwng daear a nefoedd, Dyrchefir rhyw luoedd i'r lan. Mawr ydyw dirgelwch duwioldeb! Mae Duwdod mewn undeb â dyn - Dwy natur sydd berffaith yn Iesu, Er hyny nid yw Ef ond UN; Nid ydyw i'r gwan yn rhy uchel, Ac nid yw'n rhy isel i'r Nef, Mae'n addas Gyfryngwr i'r ddwyblaid, Ein Dyddiwr bendigaid yw Ef.Roger Edwards 1811-86 Cas. Newydd o Salmau a Hymnau (W Rowlands) 1855 [Mesur: 9898D] gwelir: Mawr ydyw ein henwog Waredwr Mawr yw dirgelwch duwioldeb |
Let us praise our glorious Christ, A worthy Emmanuel for the weak! He descended from his brilliant supremacy, Who stood readily on our behalf: Jehovah and our nature he joined, The Word voluntarily made flesh; Great is our renowned Deliverer - The Lord is a Redeemer and Brother to us! It was necessary to get Divinity to save us, And humanity to die in our place; Jesus was found to fill the empty space: True God and true man is He; Our nature was exalted to the throne; Wonderful honour became our portion! A way he gives which is between earth and heaven, Some hosts are raised up. Great is the mystery of godliness! Divinity is in union with man - Two natures are perfectly in Jesus, Despite this he is still only One; He is not too high for the weak, And he is not too low for heaven, He is a suitable Mediator for the two parties, Our blessed Comforter is he.tr. 2020 Richard B Gillion |
|