Mor ddyrchafedig wyt, ein Duw, Fawryddig Lyw di-gymmar, - Dy ogoneddus ryfedd waith Yw nefoedd faith a daear. Mae ôl dy law, anfeidrol Fod, Trwy ehang rod ffurfafen, Yn traethu 'r nos, mewn eglur iaith, Dy allu maith anorphen. Marchogi ar y gwynt, ein Iôr, - Dy law sy 'n hwylio 'r daran, - Yn dyst o'th fawredd, Arglwydd mad, Mae holl symmudiad anian. Addefir di drwy'r nefoedd wen Ar bawb yn Ben urddasol, - A rhydd seraphiaid iti fawl Yn llys y gwawl trag'wyddol. Pa beth yw dyn, greadur gwael, I ti mor hael ei gofio, A chynnyg bod o'th ryfedd ras Yn Noddwr addas iddo! O derbyn glod a pharch a bri, O'n genau ni, rai gweinion; Rho ini fryd i wrando'th lais, A gwneyd dy gais yn gyson.Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 [Mesur: MS 8787] |
How exalted art thou, our God, O imcomparable, majestic Governor, - Thy glorious, wondrous work Is the vast heaven and earth. The mark of thy hand, immeasurable Being, Is thoughout the wide circle of the firmament, The night expounding, in a clear language, Thy great, endless power. Thou dost ride on the wind, our Sovereign, - 'Tis thy hand that sails the thunder, - A witness to thy greatness, esteemed Lord, Is all the movement of nature. Thou art confessed throughout the bright heavens Over all as honoured Head, - And seraphs shall give thee praise In the court of eternal radiance. What is man, a base creature, For thee so generously to remember him, And to offer to be of thy wonderful grace A suiable Refuge to him! O receive acclaim and reverence and renown, From the mouths of such poor ones as we; Give us a mind to listen to thy voice, And do thy bidding constantly.tr. 2022 Richard B Gillion |
|