Mor felys i bererin blin Cynefin a galaru, Yw cofio yng nghaledi'r byd Mae'r un o hyd yw'r Iesu. Lluddedig yw fy natur wan, A Satan yn fy maglu; Ond dros y llesg a'r isel fryd Yr un o hyd yw'r Iesu. Gelynion fyrdd a drodd yn ôl A'i annherfynol allu, Caf innau nerth i'w curo 'nghyd, Yr un o hyd yw'r Iesu. Diddymodd angau er fy mwyn I'm dwyn i'r nefol deulu; Mae'r glyn o'i ôl yn oleu i gyd, Yr un o hyd yw'r Iesu. Os trallod a gofidiau gaf Mi ddaliaf i'w foliannu; Ei nawdd a gaf yn hedd i gyd, Yr un o hyd yw'r Iesu. Pan fyddo'r storm yn duo'r nef, A'i dolef yn fy nrysu, Mi lechaf yn Ei gysgod clyd, Yr un o hyd yw'r Iesu. Pwy ond Efe ar orsedd Duw Sydd heddyw yn teyrnasu? Ac yn Ei gariad at y byd, Yr un o hyd yw'r Iesu.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: MS 8787] |
How sweet for a weary pilgrim Acquainted with lamenting, Is remembering in the world's hardship That the same always is Jesus. Exhausted is my weak nature, And Satan is tripping me up; But for the feeble and the depressed The same always is Jesus. A thousand enemies he has turned back With his boundless power, I too shall get strength to beat them altogether, The same always is Jesus. He abolished death for my sake To lead me to the heavenly family; The vale after him is all light, The same always is Jesus. If trouble and griefs I shall get I shall continue to praise him; His protection I shall get in all peace, The same always is Jesus. When the storm be blackening heaven, And it's clamour confusing me, I shall hide in his secure shadow, The same always is Jesus. Who but he on the throne of God Is today reigning? And in his love toward the world, The same always is Jesus.tr. 2021 Richard B Gillion |
|