Mor ogoneddus Arglwydd Dduw

(Cynhauaf)
Mor ogoneddus, Arglwydd Dduw,
  A rhyfedd yw'th ddaioni!
Ein dyddiau breuol gānt o'u bron
  A'th roddion eu coroni.

Y cynar wlaw, a'r tyner wlith,
  Ddiferant fendith ryfedd;
Y tir a rydd ei gynnyrch da,
  A'r haul gyfrana'i rinwedd,

Am ffrwythau hael y flwyddyn hon,
  A'n mhawrion drugareddau:
Molianwn enw'n Duw bob dydd,
  Gan iawn ddefnyddio'n breintiau.

[Am ffrwythau hael y flwyddyn hon,
   A'th fawrion drugareddau:
 Molianu d'enw mawr a wnawn,
   Gan iawn ddefnyddio'n breintiau.]
tyner wlith :: maethlawn wlith
ryfedd :: iraidd

Cas. o dros Ddwy Fil o Hymnau (Samuel Roberts) 1841

            - - - - -

Mor ogoneddus, Arglwydd Dduw,
  A rhyfedd yw'th ddaioni!
Ein dyddiau breuol gānt o'u bron
  Ā'th roddion eu coroni.

Yr haul a'r gwres sydd yn Dy law,
  A'r gwynt a'r gwlaw bob amser;
A gofal dy drugaredd sy
  Am danom ni y dyner.

Holl ffrwythau'r ddaear yn gytun
  Er lles i ddyn wasnaethant;
Am holl diriondeb
    Brenin nef,
  Rhown iddo Ef ogoniant!
1 : Benjamin Francis 1734-99
2,3: Anhysbys (<1895)

Tonau [MS 8787]:
Glanceri (D Emlyn Evans 1843-1913)
Sabboth (John Williams 1740-1821)

gwelir:
  Gofala Duw a Thad pob dawn
  I Ti O Dduw y gweddai parch

(Harvest)
How glorious, Lord God,
  And wonderful is thy goodness!
Our transitory days get completely
  Crowned with thy gifts.

The early rain, and the tender dew,
  They drip wonderful blessing;
The land gives its good produce,
  And the sun shares its virtue.

For the generous fruits of this year,
  And our great mercies:
Let us praise the name of God every day,
  While rightly using our privileges.

[For the generous fruits of this year,
   And thy great mercies:
 Praise thy great name we do,
   While rightly using our privileges.]
tender dew :: nourishing dew
wonderful :: fresh

 

               - - - - -

How glorious, Lord God,
  And wonderful is thy goodness!
Our transitory days get completely
  Crowned with thy gifts.

The sun and the heat are in Thy hand,
  And the wind and the rain every time;
And the care of thy mercy is
  Tender for us.

All the fruits of the earth in agreement
  For the benefit of man they serve;
For all the tenderness
    of the King of heaven,
  Let us give Him glory!
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~