Mab Duw a gymmerodd y dyndod

(Ymgnawdoliad Crist)
Mab Duw a gymmerodd y dyndod,
  Yn gysgod i'w hanfod ei hun,
Er achub a chadw pechadur
  Fe wnaed y ddwy natur yn un;
Agorodd borth dinas y bywyd,
  A thrwyddo mae gwynfyd i'w gael;
O ryfedd diriondeb trugaredd!
  Mae'n gwneuthur ymgeledd i'r gwael.

Fe ddrylliwyd cadwynau'r tywyllwch,
  Mae'r ffordd at Dduw'r heddwch yn rhydd,
A'r Brenin yn llawn o hawddgarwch,
  Yn dangos ei degwch bob dydd:
Ar fyr daw Tywysog y Bywyd
  I ddwyn ei anwylyd i'r nef;
A gwna, trwy beryglon, ei eglwys,
  Yn gymhwys i fyw gydag ef.
Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

Tôn [9898D]: Bryniau Caersalem
    (Richard Mills 1809-44)

(The Incarnation of Christ)
The Son of God took the manhood,
  As a shadow of his own essence,
In order to save and keep a sinner
  He made the two natures once;
He opened the gate of the city of life,
  And through it blessedness is to be had;
O wonderful tenderness of mercy!
  It is making succour for the poor.

The chains of darkness were broken,
  The way to the God of peace is free,
And the King is full of beauty,
  Showing his fairness every day:
Shortly the Prince of Life shall come
  To take his beloved to heaven;
And make, through dangers, his church,
  Fit to live with him.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~