Mae llygaid tawel Duw

Mae llygaid tawel Duw
  Ar bawb sy'n byw yn gyfiawn:
Agored yw Ei glustiau Ef
  I wrando llef yr uniawn.

Mae wyneb Duw mewn gwg
  Ar bawb sy'n ddrwg eu rhodiad;
I dorri eu coffa câs cyn hir
  Yn llwyr o dir eu trigiad.

Y cyfiawn ddyrchafa'i lef,
  A Duw o'r nef yn gwrando:
Fe'i gweryd yn Ei râs mewn pryd
  O'i boen i gyd, pan lefo.

Un agos yw ein Iôn
  At friwiau'r galon glwyfus;
Rhoir balm a chordial gan Dduw Naf
  I'r ysbryd claf dolurus.
Morris Williams (Nicander) 1809-74

Tonau [MBC 6787]:
Cemmaes (John Williams 1740-1821)
Gwalchmai (J A Lloyd 1815-74)

The quiet eyes of God are
  On everyone who lives righteously:
Open are His ears
  To hear the cry of the upright.

The face of God is in a frown
  On all who are of evil conduct;
To cut off their hated memory before long
  Completely from the land of their habitation.

The righteous raises his cry,
  With God from heaven listening:
He will deliver him in time
  From all his pain, when he cries.

One who is close is our Master
  To the bruises of a wounded heart;
Balm and cordial are given by God the Chief
  To the sad, sick spirit.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~