Mae durtur yr efengyl fwyn, Yn galw bro a bryn; Doed torf aneirif tu a'r wlad, Gyd â'r awelon hyn. Fe ddaeth y Jubil werthfawr lawn, Ar ol och'neidio'n hir; Ac mi ge's weled hyfryd ran O'r baradwysaidd dir. Fe wnaeth ei babell yn ein plith, A'i bresenoldeb sy Yn troi pob cystudd chwerw loes, Yn hyfryd hedd i ni. Darfydded dydd, darfydded nos Fel mynud bach o'r awr, Tra b'wyf yn caru a rhoi mhwys Ar fynwes f'Arglwydd mawr. Dymunwn yma dreulio'm hoes O fore hyd brydnawn, Lle cawn ni wylo cariad pur Yn ddagrau melus iawn.William Williams 1717-91 Tôn [MC 8686]: Suffolk (<1829) gwelir: Darfydded dydd darfydded nôs Darfyddwn son am bleser mwy F'Anwylyd sydd fel lili hardd Fe ddaeth y Jubil werthfawr lawn Na foed fy mywyd bellach mwy Ni gawsom y Messia'n rhad Pan ddelo angeu yn ei rwysg |
The turtle-dove of the dear gospel is Calling vale and hill; Let the innumerable throng come to the country, With these breezes. The very valuable Jubilee came, After long groaning; And I got to see a delightful portion Of the paradaisiacal land. He made his tent among us, And his presence is Turning every affliction of bitter anguish, To delightful peace for us. Let day vanish, let night vanish Like a small minute of an hour, While ever I am loving and leaning On the bosom of my great Lord. I wish here to spend my lifespan From morning until afternoon, Where we get to weep pure love In very sweet tears.tr. 2016 Richard B Gillion |
|