Mae Dy eisieu, Iesu anwyl, Paid a sefyll draw; Bydd yn agos: i fy nerthu Bydd gerllaw. Pan fydd gofid yn fy nghalon, Gallaf ddweyd i Ti: Gwyddost am holl lwybrau dyfnion F'enaid i. Pan fydd rhyw lawenydd hyfryd Yn sirioli mron, Gwyddost Ti am hwnnw hefyd, Iesu llon. Mae y temtiwr am fy hudo Oddi ar lwybrau'r nef; Bydd yn agos, rhag im' ildio Iddo ef. Pan y chwytha'r gwynt yn uchel, Pan gynhyrfa'r ḍn, Bydd yn agos: ânt yn dawel Ger Dy fron. Os daw'r byd i wenu arnaf Yn ei lwydd a'i hedd, Bydd yn agos, fel na fethaf Weld Dy wedd. Wedi gadael byd y pechu Am y Wynfa wen, Nefoedd fydd Dy weld, fy Iesu, Heb un llen.W Evans Jones (Penllyn) 1854–1938
Tôn [8583]: |
I need Thee, dear Jesus, Do not stand away; Be near: to strengthen me Be at hand. When there is worry in my heart, I can say to Thee: Thou knowest about all the deep paths Of my soul. When there is some delightful joy Cheering my breast, Thou knowest about that also, Cheerful Jesus. The tempter wants to lure me From the paths of heaven; Be near, lest I yield Unto him. When the wind blows high, When the wave gets agitated, Be near: they go quietly Before Thee. If the world comes to smile upon me In its prosperity and its peace, Be near, that I fail not To see Thy face. When leaving the world of sinning For the blessed Place of blessedness, Heaven shall be to see Thee, my Jesus, Without any curtain.tr. 2014 Richard B Gillion |
|