Mae dy lwybrau cul yn hyfryd, Mae dy gwmni'n dawel, fwyn, Mae dy iau yn dirion, esmwyth, Tra dy hunan yn ei dwyn; Mae dy feichiau'n rhyfedd ysgafn, Oll yn perthyn it sy'n hedd; Fel y mêl gwnest groesau diried, Angeu haerllug, dewr, a'r bedd. Dyma'r llwybr a ddewisais, Etto 'rwyf heb 'difarhau; Disgwyl f'etifeddiaeth 'rydwyf, Etto heb gael ei mwynhâu: Cyfoeth mawr, heb fesur arno, Trysor mwy na'r moroedd maith, Welaf draw yn nghadw i mi, Hir brydnawn, ar ben fy nhaith. Diangc wnês i maes o Sodom, Ar y gwastad 'rwyf yn byw, Mae fy nghefn ar Gomorrah, F'wyneb tua gwlad fy Nuw: Fyny i'r bryniau 'rwyf am ddiangc, Maes o sawr y mŵg a'r tân; Rho dy law, Dywysog bywyd, Tyn fy enaid yn y blaen. Ffarwel deiau, ffarwel diroedd, A'r eilunod pena' erioed, Mi'ch tyngheda 'ngŵydd y nefoedd Na ddilynoch ol fy nhroed: Myn'd rwy'n llwm tua thir y bywyd - Ffon yn unig yn fy llaw; Mi a 'mlaen dros yr Iorddonen, Mae 'nghyfeillion anwyl draw.William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: gwelir: Dyma'r llwybr a ddewisais Mae fy Nuw yn fy ngheryddu Wyneb siriol fy anwylyd |
Thy narrow paths are delightful, Thy complany is quiet, gentle, Thy yoke is tender, easy, While thou art bearing it thyself; Thy burdens are wonderfully light, All that belongs to thee is peace; Like the honey thou didst make despised crosses, Boastful, bold death, and the grave. Here is the path which I chose, Still I am without regrets; Awaiting my inheritance I am, Still without getting to enjoy it: Great wealth, without measure to it, Treasure greater than the vast seas, I see yonder keeping for me, A long afternoon, at the end of my journey. Escape I did out of Sodom, Constantly I am living, My back is to Gomorrah, My face towards the country of my God: Up to hills I am escaping, Out of the smell of the smoke and the fire; Give thy hand, Prince of life, Draw my soul forwards. Farewell houses, farewell lands, And the chief idols ever, I adjure you in the face of heaven Do not follow my footprints: Going I am naked towards the land of life - A staff only in my hand; I am going forward across the Jordan, There are dear friends over there.tr. 2014 Richard B Gillion |
|