Mae gennyf ddigon yn y nef

1,2,3,(4,(5)),6.
Mae gennyf ddigon yn y nef
  Ar gyfer f'eisiau i gyd;
Oddi yno mae y tlawd a'r gwael
  Yn cael yn hael o hyd.

O law fy Nuw fe ddaw'n ddi-feth
  Fy mywyd i a'm nerth,
Fy iechyd, synnwyr, a phob peth,
  Fy moddion oll, a'u gwerth.

O law fy Nuw y daw, mi wn,
  Bob cymorth heb nacâu:
Holl drugareddau'r bywyd hwn
  A'r gallu i'w mwynhau.

Y Duw a roes im nawdd o'r nen
  Mewn llawer bwlch a fu,
Efe yw'r Duw a ddeil fy mhen
  Yn yr Iorddonen ddu.

Gan hynny, digon, digon Duw,
  Aed da a dyn lle'r êl
Mi rof f'ymddiried yn fy Nuw,
  A deued fel y dêl.

Ymhob cyfyngder, digon Duw:
  Fy eisiau, ef a'i gwel;
Efe, i farw ac i fyw,
  A fynnaf, doed a ddel.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd) 1802-63

Tonau [MC 8686]:
    French / Dundee (Salmydd Ysgotaidd)
    Hafan (Howard John)
    St Stephen (William Jones 1726-1800)

I have sufficient in heaven
  For all my needs;
From there the poor and wretched
  May still obtain generously.

From my God's hand it comes unfailingly
  My life and my strength,
My health, sense, and every thing,
  All my means, and their worth.

From my God's hand comes, I know,
  Every help without refusal:
All the mercies of this life
  And the ability to enjoy them.

The God who gave me protection from heaven
  In many distresses that were,
He is the God who keeps my head
  In the black Jordan.

Therefore, sufficient, sufficient God,
  Let good and man go where they go;
I will put my trust in my God,
  Come what may.

In every strait, sufficient God,
  My need, he sees it;
He, to death and to life,
  Whom I demand, come what may.
tr. 2008,10 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~